Bydd gwaith y cyn artist preswyl yn Ysbyty Gwynedd, Alison Mercer yn cael ei gyflwyno ynghyd a detholiad o ffotograffau a dynnwyd ym Mhwll Nofio Bangor gan y ffotograffydd Jan Davies. Lleolir yr Oriel ym Mhrif Fynedfa'r Ysbyty ac mae ar gael i holl ymwelwyr a staff yr Ysbyty i’w fwynhau.
Mae’r fenter hon yn rhan o raglen celfyddyd mewn iechyd a lles ehangach sy’n cynnwys cynlluniau arloesol sy’n defnyddio’r celfyddydau i gyfrannu tuag at ofal iechyd, i hyrwyddo lles ac i wella cysylltiadau cymunedol a chyfathrebu. Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn yr ysbyty tan ddiwedd mis Mawrth 2012.
Cynllun cydweithredol rhwng Rhaglen celfyddyd mewn iechyd a Lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd yw Oriel Ysbyty Gwynedd.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Gwawr Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd ar 01286 679721 neu drwy e-bostio GwawrR@gwynedd.gov.uk