Mae'r pwyllgor hwn yn cynnwys 21 cynghorydd ac yn ymgymryd â'r gwaith lled-gyfreithiol o benderfynu ar geisiadau cynllunio a datblygu yn Ardal Meirionnydd. Yn ogystal â hyn mae’r pwyllgor yn gyfrifol am:
- darparu ffocws democrataidd lleol ar gyfer llywodraeth leol
- gweithredu fel llefarydd ar gyfer pryderon etholaethol
- cynrychioli buddiannau’r Cyngor ar lefel leol
- monitro darparu gwasanaethau datganoledig
- penderfynu ar faterion penodol lleol o ddiddordeb a phryder o fewn canllawiau polisi a osodir gan y Cyngor
- penodi cynrychiolwyr i gyrff allanol lleol.
Cynhelir y cyfarfodydd hyn yn gyhoeddus ac eithrio pan mae materion personol neu gyfrinachol yn cael eu trafod.