Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Rhagfyr
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Rhagfyr |
 

Rhannu'r neges Nadolig am beidio yfed a gyrru

John Evans o’r Black Boy gyda Paula Owen o dîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd yn rhannu’r neges yfed a gyrru tymhorol
John Evans o’r Black Boy gyda Paula Owen o dîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd yn rhannu’r neges yfed a gyrru tymhorol

I atgoffa’r cyhoedd am beryglon ac effeithiau yfed tra dan ddylanwad alcohol, mae Diogelwch Ffyrdd Gwynedd-Mon wedi cynhyrchu matiau cwrw tymhorol sy’n cael eu dosbarthu ar draws yr ardal.

Fel rhan o’u hymgyrch Nadolig ac i gefnogi’r ymgyrch yfed a gyrru Cymru-gyfan, mae’r bartneriaeth wedi cynhyrchu matiau cwrw gyda neges peidio yfed a gyrru sy’n cael eu dosbarthu i dafarndai lleol yn yr ardal trwy’r cynllun ‘pub watch’.

Dywedodd Paula Owen, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd: “Mae’r Nadolig yn amser i fwynhau lle mae pawb yn gobeithio cael amser da - ond mae’n bwysig cofio os ydych chi’n yfed, peidiwch â gyrru.”

Mae bron i un o bob chwech o farwolaethau ar y ffyrdd yn cynnwys gyrwyr sydd dros y terfyn alcohol cyfreithiol, ond mae modd osgoi pob marwolaeth sydd ynghlwm ag alcohol ar ein ffyrdd.

Ychwanegodd John Evans perchennog tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon: “Rydw i wedi cefnogi’r ymgyrchoedd yfed a gyrru yn llwyr ers blynyddoedd lawer ac rydw i’n falch o dderbyn y matiau cwrw i helpu i hyrwyddo’r ymgyrch yfed a gyrru blynyddol.”

 

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 09/01/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2014
Sgipio i [ brig y dudalen ]