Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Rhagfyr
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Rhagfyr |
 

Ydych chi wedi derbyn eich calendr ailgylchu?

Mae calendr newydd gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu Cyngor Gwynedd ar gyfer 2012 bellach ar gael. Dylai pob cartref yn y sir fod wedi derbyn un trwy’r post yn ystod yr wythnos ddiwethaf gyda phapur newydd Cyngor Gwynedd.

Cynghorir trigolion Gwynedd i gadw’r calendr yn rhywle diogel - beth am ei osod ar flaen yr oergell neu fan amlwg arall yn y cartref. Bydd yn helpu pobl i wybod pryd i roi’r biniau allan, ac ar y cefn mae cyfarwyddiadau am beth sy’n mynd i ba fin.

Cofiwch, mae yna ddau galendr – un ar gyfer Dwyfor (gyda stribyn lliw gwyrdd arno) ac un ar gyfer Meirionnydd ac Arfon (stribyn lliw glas).

Mae diwrnodau casglu'r un fath a llynedd, oni bai fod y Cyngor wedi cysylltu â chi i nodi fod newid. Mae lle ar y calendr i ysgrifennu eich diwrnod casglu.

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Pierce, deilydd portffolio gwasanaethau bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd: “Os ydych chi, neu rywun yr ydych chi’n eu hadnabod, heb dderbyn calendr gellir ei lawrlwytho am ddim o wefan y Cyngor www.gwynedd.gov.uk/ailgylchu neu ffoniwch ganolfan gyswllt Galw Gwynedd ar 01766 771000.

“Byddwn yn annog pobl i ffonio Galw Gwynedd hefyd os nad ydynt yn siŵr o’u diwrnod casglu, er enghraifft os ydynt yn newydd i’r ardal. Gellir gofyn am fwy o focsys glas ailgylchu neu fin newydd ar y rhif yma hefyd.

“Hoffwn ddiolch i drigolion Gwynedd am eu holl ymdrechion yn ystod 2011 i ddidoli eu gwastraff i’r bin cywir er mwyn sicrhau ein bod fel sir yn gallu ailgylchu a chompostio gymaint ag y medrwn. Bydd y Cyngor yn cyflwyno rhagor o wasanaethau yn y flwyddyn nesaf fydd o gymorth i ni gyd fedru gwneud mwy dros yr amgylchedd. Beth am wneud adduned blwyddyn newydd ar gyfer 2012 i ailgylchu a chompostio mwy?”

Bydd casgliadau sbwriel yng Ngwynedd fel arfer dros gyfnod y Nadolig, ond ni fydd casgliadau o gwbl ar 26 a 27 Rhagfyr. Mae hyn yn cynnwys gwastraff o’r bocs ailgylchu glas, bin gwastraff bwyd brown, bin olwyn brown, bin olwyn gwyrdd neu sach ddu.

Os yw hyn yn effeithio ar y casgliad arferol bydd modd gweld y dyddiad casglu nesaf ar y calendr casgliadau, neu am fwy o fanylion gellir ffonio canolfan gyswllt Galw Gwynedd ar 01766 771000.

Bydd canolfannau ailgylchu a gwaredu gwastraff Cyngor Gwynedd hefyd ar agor fel arfer yn ystod cyfnod y Nadolig, heblaw am 24-27 Rhagfyr, 31 Rhagfyr a 1 Ionawr pan fyddant wedi cau. Bydd y canolfannau ar agor fel arfer 28-30 Rhagfyr ac yn ailagor fel arfer ar 2 Ionawr. Eto, mae’r manylion ar wefan y Cyngor www.gwynedd.gov.uk/ailgylchu



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 23/01/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]