Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Tachwedd
 

Dewch i fwynhau byd natur

Cynhelir taith gerdded i wylio adar y dŵr yng Ngwarchodfa Natur Morfa Madryn, Llanfairfechan ddydd Sadwrn 12 Tachwedd, 10.30am-1pm.

Mae’n daith gerdded rwydd, yn addas ar gyfer oedolion a phlant, a bydd yn gyfle i bobl weld hwyaid a rhydyddion y gaeaf ar hyd y lan ac ym mhyllau’r warchodfa.

Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd rhwng Cynghorau Gwynedd a Chonwy.

Dywedodd Rhys Jones, Uwch Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd: “Dyma gyfle gwych i fwynhau golygfeydd bendigedig yr ardal ac i ddysgu am fyd natur - oll yn rhad ac am ddim.

“Byddwn yn gofyn i bobl sy’n dymuno dod ar y daith gerdded i sicrhau eu bod yn gwisgo esgidiau priodol a dillad sy’n dal dŵr. Dewch ag ysbienddrych os oes gennych un.

“Mae croeso i bobl ddod a phecyn bwyd os ydynt eisiau. Mae gofyn i bawb gyfarfod ym maes parcio’r traeth, promenâd Llanfairfechan am 10.30am.”

Rhaid archebu eich lle, cysylltwch ag Alun Jones ar 01492 575200.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 09/11/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]