Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Tachwedd
 

Urddas mewn gofal ar frig yr agenda

Cynhadledd Cyngor Pobl Hŷn Gwynedd
Cynhadledd Cyngor Pobl Hŷn Gwynedd

Roedd cynhadledd flynyddol Cyngor Pobl Hŷn Gwynedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn eleni, gyda mwy na 80 o bobl o bob rhan o’r sir yn dod at ei gilydd ym Mhorthmadog.

Prif thema'r gynhadledd oedd urddas mewn gofal. Roedd yn gyfle i bobl hŷn drafod eu pryderon a’u dyheadau ac i glywed am y gwaith sydd eisoes yn digwydd o ran sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin gydag urddas a pharch.

Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, oedd prif siaradwr y gynhadledd. Dywedodd: “Roeddwn yn falch iawn o fod nôl yng Ngwynedd ar gyfer Cynhadledd Pobl Hŷn ym Mhorthmadog.

“Mae llawer o waith da yn cael ei gyflawni sy’n ymwneud â phobl hŷn a’r materion sy’n effeithio arnynt. Roedd hi’n braf iawn cael gwybod bod ffocws clir yn cael ei roi ar urddas mewn gofal, a chlywed sut mae’r Siarter Urddas lleol yn cael ei ddefnyddio mewn gofal preswyl a gofal cartref.

“Mae’n hanfodol gweithio yn agos gyda phobl hŷn a chael gwybod am faterion a gwasanaethau sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae’r digwyddiad hwn yn enghraifft o sut i wneud y cysylltiad gorau efo pobl hŷn yn eu cymunedau, a chasglu eu barn a’u profiadau am ddarpariaeth y gwasanaeth.”

Cafodd y gynulleidfa hefyd gyfle i rannu eu profiadau a’u pryderon gyda’r comisiynydd yn ystod sesiwn holi ac ateb.

Uchafbwynt arall y gynhadledd oedd lansio adroddiad ar ganfyddiadau adolygiad diweddar am ddefnydd y Siarter Urddas Mewn Gofal Lleol. Un o ganfyddiadau’r adroddiad oedd bod egwyddor Urddas mewn Gofal yn rhan anhepgor o’r gwasanaethau a ddarperir gan bob un o gartrefi gofal a ymwelwyd â hwy yng Ngwynedd.

Mae’r darganfyddiadau yn dilyn proses o holi defnyddwyr gwasanaethau a gwahanol sefydliadau ynglŷn â gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn. Cafodd gwaith ymchwil trylwyr ei wneud ar sut gellir gwella gwasanaethau er budd defnyddwyr a’u gofalwyr a theuluoedd.

Roedd uchafbwyntiau eraill y diwrnod yn cynnwys:

  • Gwerfyl Wyn Roberts, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor yn trafod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gofal.
  • Dr Christine Dobbs yn trafod gofal diwedd bywyd.
  • Canfyddiadau arolwg a gafodd ei gynnal ledled Gwynedd am yr hyn mae pobl yn ei deimlo am urddas a pharch at bobl hŷn.
  • Drama fer yn dangos sut y gall gwasanaethau fethu dangos urddas mewn gofal – roedd yn llwyddiannus iawn.

Cafodd y gynulleidfa hefyd y cyfle i siarad gyda chynrychiolwyr o nifer o sefydliadau ac elusennau yn ystod sesiwn gwybodaeth agored.

Dywedodd y Cynghorydd John Wyn Williams, sy’n arwain ar faterion pobl hŷn ar Gyngor Gwynedd: “Roedd y Ganolfan yn fwrlwm o weithgaredd ac roeddem wrth ein boddau o weld cymaint o bobl yno i drafod gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn.

“Efallai nad yw rhai pobl yn gwybod beth yw eu hawliau, neu ddim yn gwybod am y sefydliadau sy’n gweithio ar eu rhan. Roedd yn gyfle perffaith iddynt gael gwybod am ddigwyddiadau, gweithgareddau a’r gwasanaethau sydd ar gael, sy’n hyrwyddo annibyniaeth ar gyfer bobl hŷn.”



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 02/11/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]