Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Hydref
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Hydref |
 

Academi Hwylio Pwllheli ar frig y don

Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau Pwllheli
Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau Pwllheli

Mae datblygiad Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau ym Mhwllheli wedi cymryd cam sylweddol yn ei flaen drwy benodiad penseiri ar gyfer y cynllun cyffrous.

Penseiri Ellis-Williams sydd wedi eu dewis i ddylunio’r ganolfan eiconig a bydd y penseiri lleol Dobson:Owen yn chwarae rhan allweddol yn y prosiect trwy fod yn ddolen gyswllt rhwng y penseiri, Cyngor Gwynedd a’r gymuned leol.

Mae’r prosiect £8.3 miliwn wedi sicrhau tua £4 miliwn o raglen Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd ac o Gronfa Arian Cyfatebol Targed Llywodraeth Cymru.

Pan fydd yn agor yn 2013, rhagwelir y bydd yr Academi Hwylio’n denu miloedd o ymwelwyr ychwanegol i’r ardal bob blwyddyn, yn cynnig cyfleoedd hwylio o’r radd flaenaf a hyfforddiant i bobl leol a chyfleuster cymunedol newydd y mae mawr angen amdano i’r dref.

Meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae swyddogion o Wasanaeth Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio ar y prosiect uchelgeisiol yma ers pum mlynedd, ac rydan ni wrth ein boddau ei fod wedi cyrraedd carreg filltir arall gydag apwyntiad y penseiri Ellis-Williams a Dobson:Owen o Bwllheli.

“Mi fydd pobl leol yn gallu gweld cynnydd gweladwy yn y dyfodol agos iawn, ac mae disgwyl i’r gwaith adeiladu gychwyn yr haf nesaf efo’r bwriad i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn hydref 2013.

“Mae Pwllheli yn nodedig eisoes fel un o’r lleoliadau hwylio gorau ar Ynysoedd Prydain ac mae’n denu digwyddiadau hwylio a regatas cenedlaethol a rhyngwladol.

“Trwy weithio efo’n partneriaid i fuddsoddi yn yr isadeiledd rydan ni’n ffyddiog y medrwn ni ddenu rasys a chystadlaethau mwy ac amlach i’r ardal. Mae’n ymchwil ni’n dangos y bydd y datblygiad newydd yma’n denu 12,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r ardal, gan ddod â hwb economaidd sylweddol, gan y byddai pawb o’r bobl yma’n prynu bwyd ac angen llety, yn ogystal â defnyddio’r masnachwyr a’r gwasanaethau morol lleol.

“Mae’r sector gweithgareddau awyr agored yn mynd o nerth i nerth, ac mi fydd yr academi hwylio yma’n rhoi cyfle i bobl leol, ac yn enwedig i blant, gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr a gallai hyn arwain at ragor o ddewisiadau gyrfa yn y dyfodol, gan ei wneud yn ddiwydiant cynaliadwy yng Ngwynedd.”



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 24/10/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]