Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Hydref
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Hydref |
 

Gwynedd a Môn - cytundeb i gydweithio ym maes iechyd galwedigaethol

Mae cynghorau Gwynedd a Môn wedi dod i gytundeb arloesol er mwyn darparu gwasanaeth iechyd galwedigaethol i’w staff i’r dyfodol.

Sefydlodd Cyngor Gwynedd ei Uned Iechyd Galwedigaethol ei hun yn 2008 sydd wedi arwain ar raglen hybu iechyd cynhwysfawr ymhlith staff. Ers sefydlu’r uned, gwelwyd lleihad sylweddol mewn absenoldebau salwch ymysg staff.

Ers dechrau mis Hydref mae Cyngor Gwynedd yn cyd-weithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn i sicrhau bod y manteision hyn yn cael eu lledaenu i staff ar draws y ddau Gyngor. Cytundeb am flwyddyn yw hon yn y lle cyntaf ond mae’r ddau Gyngor yn awyddus i’r trefniant lwyddo yn yr hir dymor.

Dywedodd y Cynghorydd Seimon Glyn, Arweinydd Portffolio Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd: “Mae’r cytundeb hon yn arddangos ymrwymiad y ddau Gyngor i sicrhau gofal a lles o ansawdd i’w staff ac i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau prin sydd ar gael yn y sector gyhoeddus yn bresennol.”  

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Bryan Owen: "Mae'r Cyngor Sir yn cymryd iechyd ei staff o ddifri ac rydym yn teimlo y bydd y cytundeb newydd yma gyda Chyngor Gwynedd yn ein galluogi ni i roi'r cymorth gorau i'n gweithlu. Rydym yn edrych ymlaen at gyd weithio ar y cynllun newydd yma er budd y ddau gyngor."



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 21/10/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]