Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Hydref
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Hydref |
 

Cyfle i ddysgu am olrhain hanes teulu

Mae olrhain hanes teulu wedi dod yn boblogaidd iawn yn ddiweddar gyda nifer o raglenni teledu yn canolbwyntio ar y maes a mwyfwy o bobl yn dangos diddordeb mewn llunio eu cart achau personol. Mae’n debyg felly y bydd cyrsiau gan Gyngor Gwynedd a fydd yn rhoi arweiniad i bobl am y ffordd gorau i fynd ati i olrhain eu hachau yn hynod boblogaidd.

Cynhelir y cyrsiau undydd ar gyfer y sawl sydd â diddordeb mewn olrhain hanes teulu yn Archifdy Caernarfon dan arweiniad Gwasanaeth Archifdy Cyngor Gwynedd. Bydd y cyrsiau yn rhoi canllawiau ar sut i gychwyn olrhain hanes eich teulu, ac yn rhoi cyfle i edrych ar wahanol fathau o ffynonellau a thystiolaeth.

Bydd sesiwn yn rhoi astudiaeth achos a sesiwn cwestiwn ac ateb yn rhoi cyfle i chwi holi archifyddion Cyngor Gwynedd. Bydd y sawl sy’n mynychu yn derbyn pecyn gwybodaeth. Cost y cwrs yw £10.

Dywedodd y Cynghorydd Roy Owen, sydd â chyfrifoldeb am archifau ar Gyngor Gwynedd:

“Rydym yn gobeithio y bydd y cyrsiau hyn yn gyfle i unrhyw un sydd â diddordeb mewn olrhain hanes eu teulu i weld yr holl gofnodion hanesyddol diddorol sydd ar gael, a bod cyfle arbennig iddynt wneud defnydd o’r cyfleusterau yma yn archifau Cyngor Gwynedd.

“Mae cyrsiau tebyg sydd wedi eu cynnal yn y gorffennol wedi bod yn boblogaidd iawn, ac rydym yn hyderus y bydd nifer o aelodau’r cyhoedd yn awyddus i archebu lle ar y cyrsiau yma hefyd, felly cofiwch i gadw lle os ydych chi’n awyddus i fynychu un o’r cyrsiau. Y cyntaf i’r felin fydd hi.”

Cynhelir y cyrsiau ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Sadwrn, 19 Tachwedd 2011: Cwrs Hanes Teulu (Cymraeg)

Lleoliad: Archifdy Caernarfon

Amser: Cwrs diwrnod yn cychwyn am 10am

Dydd Llun, 21 Tachwedd 2011: Cwrs Hanes Teulu (Saesneg)         

Lleoliad: Archifdy Caernarfon

Amser: Cwrs diwrnod yn cychwyn am 10am

Bydd mwy o ddyddiau yn cael eu trefnu yn ardal Meirionnydd yn y flwyddyn newydd.

Mae’n angenrheidiol i archebu lle ar y cyrsiau. Os am archebu lle cysylltwch â:

Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd ar 01286 679095/679092  neu e-bostiwch: archifau@gwynedd.gov.uk

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 20/10/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]