Am noson ddifyr a hwyliog yng nghwmni dau o awduron pen i gamp Cymru dewch draw i Gaffi Gegin, Yr Hen Farchnad, Caernarfon ar 10 Tachwedd 2011.
Bydd Dyl Mei yn holi Ned Thomas a Dewi Prysor am eu hoff draciau cerddoriaeth ac am eu llyfrau yn y digwyddiad a gynhelir ar nos Iau, 10 Tachwedd am 7.30pm..
Enillodd Ned Thomas gwobr Llyfr y Flwyddyn 2011 am ei hunangofiant campus ‘Bydoedd’ a ddisgrifir fel ‘hunangofiant Cymraeg gorau’r ganrif’. Derbyniodd Dewi Prysor glod uchel am ei nofel gyffrous yntau ‘Lladd Duw’ a gyrhaeddodd restr fer y gystadleuaeth ac enillodd wobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2011.
I archebu tocynnau sy’n costio £5, ac am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd ar 01286 679465 neu e-bost: gwenlasarus@gwynedd.gov.uk
Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gefnogi gan Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd sy’n gynllun Llenyddiaeth Cymru a gefnogir gan Gyngor Gwynedd.
Dewch yn llu, mae’n argoeli i fod yn noson werth chweil.