Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Hydref
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Hydref |
 

Ad-drefnu addysg yn nalgylch y Gader

Ddydd Mawrth, 11 Hydref 2011, bydd Bwrdd Cyngor Gwynedd yn ystyried argymhellion sy’n ffurfio rhan o’r cynlluniau i ad-drefnu addysg yn nalgylch y Gader, Dolgellau.

Ym mis Gorffennaf 2011, cymeradwyodd y Cyngor gyfres o argymhellion ar gyfer y dalgylch gan gynnwys cynnig i sefydlu ysgol ardal gymuned aml-safle, gydag un safle yn Ysgol Dinas Mawddwy, a’r llall naill ai yn Ysgol Brithdir neu Ysgol Ieuan Gwynedd yn Rhydymain.

Yn dilyn y penderfyniad yma, fe wnaed asesiadau manwl ar safleoedd Ysgol Brithdir ac Ysgol Ieuan Gwynedd i werthuso eu haddasrwydd. Mae’r gwaith hwn wedi dod i’r casgliad mai safle presennol Ysgol Brithdir ynghyd â safle Ysgol Dinas Mawddwy ddylai ffurfio’r ysgol ardal gymuned aml-safle.

Yn unol â’r casgliadau hyn, mae’r adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan Fwrdd Gwynedd ar 11 Hydref yn argymell bod y Cyngor yn symud ymlaen i gyflawni cyfnod o ymgynghori statudol ar y cynnig i gau ysgolion Brithdir, Ieuan Gwynedd, Dinas Mawddwy a Llanfachreth, a sefydlu ysgol ardal gymuned aml-safle i blant o 3 i 11 oed gydag un safle o’r ysgol wedi ei leoli yn safle presennol Ysgol Dinas Mawddwy, a’r llall yn safle presennol Ysgol Brithdir i agor ar 1 Medi 2013.

Os cymeradwyir yr argymhelliad hwn, gofynnir i swyddogion y cyngor gymryd y camau angenrheidiol i ddatblygu safle Ysgol Brithdir a chyflawni gwaith paratoi ymlaen llaw a buddsoddi yn y safle.

Meddai Arweinydd Portffolio Addysg Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Liz Saville Roberts:

“Rydan ni’n ddiolchgar i’r gymuned leol ac yn enwedig i’r ddau gynghorydd lleol, John Pughe Roberts a Gethin Glyn Williams, am y ffordd adeiladol y maen nhw wedi cyfrannu at yr hyn sy’n amlwg yn fater sensitif iawn.

“Fy ngobaith rwan ydi y medrwn ni symud y prosiect ymlaen i ddarparu’r cyfleoedd addysg gorau posibl i bobl ifanc yr ardal am y degawdau i ddod.”

Mae adroddiad Bwrdd y Cyngor yn argymell hefyd y dylid cyflawni gwaith pellach ar ddatblygu’r gymuned ddysgu gydol oes (ysgol) arfaethedig yn nhref Dolgellau. Pan fydd y gwaith hwn wedi ei gwblhau, bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i Fwrdd y Cyngor am benderfyniad terfynol gydag argymhelliad ar y dull gorau o sefydlu’r gymuned ddysgu gydol oes ar gyfer y dref.

Os bydd yn cael ei gymeradwyo, bydd yr argymhelliad i ymgorffori Ysgol Brithdir i’r ysgol ardal gymuned aml-safle a chau Ysgol Ieuan Gwynedd yn destun ymgynghoriad statudol yn yr hydref.

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 06/10/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]