Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Hydref
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Hydref |
 

Eryri Mynyddoedd a Môr 2012 – cyfleodd marchnata

Llyfryn Eryri - Mynyddoedd a môr
Llyfryn Eryri - Mynyddoedd a Môr

Mae busnesau sy’n cynnig llety i dwristiaid fydd yn ymweld â Gwynedd yn 2012 yn cael eu hannog i hysbysebu ym mhrif declynnau marchnata’r ardal – llyfryn a gwefan Eryri Mynyddoedd a Môr.

Nod y wefan a’r llyfryn - sydd wedi eu cynhyrchu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - ydi denu ymwelwyr am wyliau, gwyliau byr neu daith undydd i’r ardal.

Mae disgwyl y bydd o leiaf 100,000 o gopïau o’r llyfryn yn cael eu cynhyrchu a’u dosbarthu i ymwelwyr drwy farchnata yma a thramor, mewn sioeau teithio a gwyliau, gyda’r wefan – www.ymweldageryri.info wedi derbyn dros 680,000 o ymwelwyr ers ei lansio yn Medi 2009.

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Arweinydd Portffolio Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Dyma gyfle gwych i fusnesau Gwynedd arddangos yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ganddynt i’w gynnig i ymwelwyr i’r ardal.

“Bydd cwmnïau sy’n talu am hysbyseb yn y llyfryn yn cael arddangos eu manylion ar wefan Eryri Mynyddoedd a Môr yn rhad ac am ddim. Gyda 42,000 o ymwelwyr misol gobeithio felly y bydd busnesau Gwynedd yn cymryd mantais ar y cyfle marchnata yma i hyrwyddo Eryri fel cyrchfan dwristaidd boblogaidd.”

Mae dyddiad cau ar gyfer derbyn hysbysebion wedi’i ymestyn i 14 Hydref 2011.

Am ragor o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Steven Jones o Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd ar (01286) 679217 neu e-bostiwch: stevenj@gwynedd.gov.uk gan ysgrifennu Llyfryn Eryri 2012 yn y blwch testun.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 04/10/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]