Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Medi
 

Compost penigamp yn rhad ac am ddim

Gwastraff Bwyd
Compost wedi ei wneud o wastraff bwyd roddwyd yn y bin brown

Bydd Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd yn cynnal diwrnod compost am ddim ar Stad Ddiwydiannol Glan y Don Pwllheli ddydd Sadwrn, 1 Hydref rhwng 9.30am a 3pm.

Mae’r compost wedi ei wneud o wastraff bwyd mae trigolion Gwynedd wedi ei roi yn y bin brown. Bydd sacheidiau o gompost ar gael yn rhad ac am ddim fel diolch am eu gwaith yn didoli eu gwastraff a rhoi gwastraff bwyd yn y bin brown.

Mae’r diwrnodau compost am ddim bob amser yn boblogaidd iawn, yn ôl Steffan Jones, Uwch Reolwr Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd.

Meddai: “Mae’r compost i gyd wedi ei gymryd y tro diwethaf i gynnal diwrnod tebyg – sef dros 500 sach. Credaf fod hyn yn dangos pa mor uchel yw safon ein compost.

“Dyma’n ffordd ni o ddiolch i drigolion Gwynedd am roi eu plicion, gweddillion plât, a bwyd sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes yn y bin brown.”

Am fwy o wybodaeth am y diwrnod compost a’r gwasanaeth bin brown neu unrhyw fater ynglyn â gwastraff ac ailgylchu, cysylltwch â Desg Gymorth Ailgylchu Cyngor Gwynedd drwy ffonio (01286) 679872, e-bostio ailgylchu@gwynedd.gov.uk neu ewch i’r wefan www.gwynedd.gov.uk/ailgylchu

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 20/09/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]