Bydd clwb cerdd bore Sadwrn ar gyfer plant saith i 11 oed yn cael ei gynnal yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli gan ddechrau ar 15 Hydref.
Bydd chwe sesiwn gyda thiwtoriaid profiadol o’r ganolfan gerdd yn cael eu cynnal drwy’r clwb Dwi’n Caru Cerdd. Bydd yn rhoi cyfle i blant glywed, chwarae a chyfansoddi pob math o gerddoriaeth, yn ogystal â chael cyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau.
Does dim angen profiad blaenorol o chwarae na chyfansoddi cerddoriaeth i gymryd rhan. Mae rhaid archebu lle ac mae llefydd yn gyfyngedig felly mae gofyn i rieni neu ofalwyr plant sy’n dymuno ymuno â’r clwb i gysylltu â Gwawr Roberts yn Uned Celf Gymunedol Gwynedd cyn gynted a bo modd ar 01286 679721 / 07789 032517, neu e-bostio GwawrR@gwynedd.gov.uk