Bydd Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd yn cynnal diwrnod compost am ddim yng Nghanolfan Ailgylchu Ffridd Rasus, Harlech ddydd Sadwrn, 17 Medi rhwng 9.30am a 3pm.
Mae’r compost wedi ei wneud o wastraff bwyd mae trigolion Gwynedd wedi ei roi yn y bin brown. Bydd sacheidiau o gompost ar gael yn rhad ac am ddim fel diolch am eu gwaith yn didoli eu gwastraff a rhoi gwastraff bwyd yn y bin brown.
Mae’r diwrnodau compost am ddim bob amser yn boblogaidd iawn, yn ôl Steffan Jones, Uwch Reolwr Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd.
Meddai: “Mae’r compost i gyd wedi ei gymryd y tro diwethaf i gynnal diwrnod tebyg – sef dros 500 sach. Credaf fod hyn yn dangos pa mor uchel yw safon ein compost.
“Dyma’n ffordd ni o ddiolch i drigolion Gwynedd am roi eu plicion, gweddillion plât, a bwyd sydd wedi pasio diwedd ei oes yn y bin brown.”
Am fwy o wybodaeth am y diwrnod compost a’r gwasanaeth bin brown neu unrhyw fater ynglŷn â gwastraff ac ailgylchu, cysylltwch â Desg Gymorth Ailgylchu Cyngor Gwynedd drwy ffonio (01286) 679872, e-bostio ailgylchu@gwynedd.gov.uk neu ewch i’r wefan www.gwynedd.gov.uk/ailgylchu