Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Medi
 

Helfa ffwng yn Stad y Faenol

Cap Cwyr
Ffwng Cap Cwyr

Os hoffech chi fynd ar daith ychydig yn wahanol, yna dewch i ddarganfod yr amrywiaeth gwych o fadarch a ffyngau eraill sydd i’w gweld yng nghoetiroedd Gwynedd.

Gyda help Debbie Evans, arbenigwraig ar fyd y ffyngau, cewch gyfle i adnabod y ffwng lliwgar amanita’r gwybed, y cap marwol adnabyddus, neu’r siantarel gyda’i arogl hyfryd.

Mae ffyngau coedlannau yn ailgylchwyr gwych, yn cynnal ffrwythlondeb y pridd, ac maent hefyd o ddefnydd pwysig i ni mewn ffyrdd eraill - er enghraifft, wrth gynhyrchu meddygyniaeth gwrthfiotig sy’n cael ei gynhyrchu’n naturiol ganddynt. Mae’r nifer o lefydd sy’n gyfoethog o ffyngau yng ngorllewin Ewrop wedi lleihau, ond bydd y daith hon yn ymweld â lleoliad pwysig yn y maes yma, sef Parc Faenol, ger Bangor.

Dywedodd Emily Meilleur, Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd:

“Dyma gyfle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn byd natur a bywyd gwyllt i fynd ar daith o amgylch tir parc Stad y Faenol i gael gweld yr amrywiaeth cyfoethog sydd i’w fwynhau. Byddwn yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb i ddod draw.

“Os hoffech ymuno yn yr hwyl yna efallai y gallech ddod â basged gyda chi i gasglu’r madarch. Byddem hefyd yn cynghori unrhyw un sy’n bwriadu dod i ddod ag esgidiau cerdded addas a dillad dal dŵr - rhag ofn!”

Trefnir y digwyddiad hwn gan bartneriaeth Natur Gwynedd, a bydd yr helfa yn cychwyn o faes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Stad y Faenol, ger Bangor am 1.30pm ar ddydd Sadwrn, 17 Medi. Bydd angen i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Am fwy o wybodaeth neu i gadw lle ar yr helfa cysylltwch gydag Emily Meilleur, Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd ar 01286 679977 neu drwy e-bost: biomrywiaeth@gwynedd.gov.uk

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 07/09/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]