Bydd tri o enillwyr rhai o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni yn cymryd rhan yn y daith ac yn darllen pytiau o’u gwaith, sef enillydd y fedal ddrama Elin Gwyn; enillydd y gadair Llŷr Gwyn Lewis ac enillydd y goron Llŷr Titus. Bydd y daith yn cael ei arwain gan y bardd a’r awdur Karen Owen.
Bydd y daith yn cychwyn ym Methesda gan orffen yn Llithfaen, cyn dychwelyd i Ddyffryn Ogwen.
Mae cyfle hefyd i gymryd mantais o gynnig arbennig i fwynhau pryd o fwyd ac yna perfformiad sioe glybiau Theatr Bara Caws, Un Fach Flewog.
Dywedodd Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd: “Mae’r daith bws yn argoeli i fod yn ddiwrnod difyr iawn. Mae’n gyfle i gyfarfod pobl sydd â’r un diddordebau ac wrth gwrs i glywed gan y beirdd ac awduron eu hunain am eu gwaith.
“Bwriad y daith yw rhoi blas o ddoniau rhai o awduron a beirdd ifanc a mwyaf addawol yr ardal, a chyfle i weld yr ardaloedd sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth iddynt.
“Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni, ac mae’r diwrnod yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg.”
Trefn y diwrnod:
- 2.30pm – Bws yn cychwyn ger siop Spar, Bethesda (lle i adael cerbydau ym maes parcio Clwb Rygbi Bethesda)
- 2.55pm – Llŷr Gwyn Lewis yn ymuno â’r daith, Caernarfon.
- 3.40pm – Llŷr Titus yn ymuno â’r daith, Pwllheli.
- 4pm - Paned a chacen, a chyfle am sgwrs, yn Y Daflod, Tafarn y Fic, Llithfaen.
- 5.30pm – Gadael Llithfaen
- 6.30pm – Cyrraedd Bethesda
Cost y diwrnod fydd £10; neu £20 am y daith, pryd bwyd min nos a thocyn i’r sioe.
I archebu lle, ac am fwy o wybodaeth am y daith, cysylltwch â Gwen Lasarus ar 01286 679465 GwenLasarus@gwynedd.gov.uk neu Annes Sion ar 01286 676721 AnnesSion@gwynedd.gov.uk