Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Awst
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Awst |
 

Cronfa Gymunedol Ysgol yr Hendre wedi agor

Mae Wynne Construction y cwmni sy’n adeiladu Ysgol yr Hendre newydd yng Nghaernarfon ar ran Cyngor Gwynedd wedi clustnodi £3,000 i’w ddosbarthu fel grantiau i grwpiau cymunedol ar gyfer prosiectau er budd pobl yn nalgylch yr ysgol.

Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction: “Rydym i gyd yn Wynne Construction yn falch iawn i fod yn gysylltiedig ag adeiladu Ysgol Yr Hendre a gobeithiaf y bydd sefydlu’r gronfa arian yma yn cyfrannu mewn ffordd bositif at fywyd cymunedol yr ardal.”
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae adeiladu’r Ysgol yr Hendre newydd yn ddatblygiad pwysig iawn i dref Caernarfon wrth gwrs. Fel Cyngor, rydym yn croesawu’r gronfa hon sydd wedi dod yn sgil y datblygiad - bydd yr arian hwn yn cynnig cyfle ardderchog i grwpiau yn yr ardal i ddatblygu prosiect er budd y gymuned leol.” 
 
Bydd Uned Adfywio Cyngor Gwynedd yn gweinyddu’r grant - derbynnir ceisiadau am symiau hyd at £500 gan bob grŵp. Ond rhaid brysio - y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i’r gronfa yw dydd Gwener, 9 Medi 2011.   
 
Os ydych am ffurflen gais, cysylltwch â Heather Williams, Cyngor Gwynedd, ar 01286 679 153 a heatherwilliams@gwynedd.gov.uk neu â Dafydd E. Jones, Swyddog Adfywio ar 01286 871 920 a dafyddeinionjones@gwynedd.gov.uk
 


Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 08/08/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]