Er mwyn defnyddio cludiant cyhoeddus i gyrraedd yr ysgol / coleg, rhaid i fyfyrwyr 16+ dalu £60 neu £100 bob tymor.
Cais am docyn newydd / adnewyddu
Rhaid i'r cais fod yn enw'r sawl fydd yn defnyddio'r tocyn.
Er mwyn gwneud cais byddwch angen:
- cerdyn debyd / credyd. Ar-lein, byddwch yn talu drwy system ddiogel Porth Talu Capita.
- llun (myfyrwyr ysgol / Prifysgol Bangor yn unig)
- rhif ID (myfyrwyr coleg yn unig: i'w gael wrth gofrestru ac ar eich cerdyn myfyriwr).
Myfyrwyr coleg: ni fydd modd i chi gael tocyn heblaw eich bod wedi llofnodi'r datganiad Diogelu Data wrth gofrestru ar ddechrau'r flwyddyn. Gadewch 3 diwrnod i ni allu prosesu'r datganiad cyn gwneud cais.
Newid manylion Tocyn Teithio
Dim cost.
Tocyn Teithio yn lle un sydd ar goll / wedi malu
Bydd ffi o £10 am y tocyn newydd.
Gofyn cwestiwn neu gwyno am y Tocyn Teithio / gwasanaeth bws
www.gwynedd.gov.uk/tocynteithiomyfyriwr