Mewn ymateb i’r adroddiad ac i hyrwyddo’r cyfleon sydd ar gael ar hyn o bryd, bydd digwyddiad gwybodaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys y Bedyddwyr, Tywyn ar ddydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2011 (3.30pm - 7pm) fel y gall pobl leol, busnesau a phobl eraill sydd â diddordeb ddod draw i ddeall mwy am y cyfleon sydd ar gael yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Lewis, Arweinydd Portffolio Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Fel Cyngor rydym yn awyddus i sicrhau fod cymunedau ar draws Gwynedd yn ymwybodol o bob cyfle sydd ar gael a'u bod yn gallu cyflawni eu potensial. Rydym yn gobeithio y bydd trigolion Tywyn yn dod draw i Eglwys y Bedyddwyr ar 12 Gorffennaf.”
Nododd y Cynghorydd Anne Lloyd-Jones, sy’n cynrychioli Tywyn ar Gyngor Gwynedd: “Bydd y digwyddiad gwybodaeth yma yn Nhywyn yn gyfle i drigolion lleol ddysgu mwy am dai fforddiadwy yn yr ardal, i ddod i wybod mwy am y cyfleon sydd ar gael os ydych eisiau dechrau eich busnes eich hun, cyrsiau mewn colegau lleol sydd ar gael neu os ydych angen cymorth a hyfforddiant er mwyn dychwelyd i waith.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Wyn Evans, sydd hefyd yn cynrychioli Tywyn ar Gyngor Gwynedd ei gefnogaeth: “Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yma yn darparu cyfle gwych i drigolion lleol ddysgu mwy am y cyfleon sydd ar gael iddynt yn ardal Tywyn.”
Bydd cynrychiolwyr o Grwp Adfywio Tywyn a Chyngor Gwynedd yn bresennol i ateb eich cwestiynau ac i ddarparu gwybodaeth ar y cyfleon datblygu sydd wedi eu hadnabod yn Nhywyn.
Cynhelir y sesiwn galw heibio yn Eglwys y Bedyddwyr, Tywyn ar ddydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2011 rhwng 3.30pm a 7pm.