Mae nifer o wynebau adnabyddus o fyd y teledu, llenyddiaeth; chwaraeon, celf, cerddoriaeth, addysg a busnes wedi rhannu eu profiadau o siarad Cymraeg fel rhan o ffilm wedi ei chomisiynu yn arbennig ar gyfer cynhadledd Yr C Ffactor sydd i’w chynnal yn Nant Gwrtheyrn ar ddydd Iau, 9fed o Fehefin.
Mae unigolion blaenllaw megis Bryn Fôn, Elin Fflur, Elfyn Lewis, Bethan Gwanas, Luned Aaron, Myrddin ap Dafydd, Morgan Jones a Sali Mali wedi cyfrannu at gyfres o ffilmiau byrion fydd yn cael eu dangos ar wal fideo fel rhan o’r digwyddiad sy’n torri tir newydd. Yn ogystal â hyn, bydd ffilm sy’n dangos enghreifftiau o’r arfer gorau yn y sir hefyd yn cael ei harddangos yn y gynhadledd, sy’n cynnwys gorsaf radio Gymraeg sy’n cael ei chyllido gan Hunaniaith yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda. Bydd y digwyddiad yn cael ei arwain gan y darlledwr Dewi Llwyd gydag anerchiad gan Alun Ffred Jones AC.
Pwrpas y gynhadledd yw codi ymwybyddiaeth ymhlith prifathrawon Gwynedd ynglŷn â’r rhwystrau sy’n wynebu plant pan mae’n dod at ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Bydd y gynhadledd hefyd yn ategu pwysigrwydd gosod sylfaen gadarn a hybu defnydd o’r iaith Gymraeg ymhlith plant yng nghyd-destun Cynllun Addysg Gymraeg Gwynedd, anghenion ehangach y Cwricwlwm Cymreig ac Estyn.
Dywedodd Bryn Fôn, “Fyddwn i ddim wedi cyrraedd ble rydw i heddiw oni bai am yr iaith Gymraeg. Fe wnes i benderfynu nôl ym 1977 fy mod eisiau bod yn actor a diddanwr. Do, fe ges i gynigion gan bobl fel Warner Bros i ganu yn Saesneg ond fe benderfynais ei bod hi’n bwysicach ac yn fwy naturiol i mi ddilyn fy ngyrfa drwy’r Gymraeg.”
Ychwanegodd Angharad Gwyn, sy’n berchen siop nwyddau cartref ar-lein Adra, “Rydym yn cael adborth cyson gan gwsmeriaid sy’n hoff o’r ffaith eu bod nhw’n gallu mynd drwy’r holl broses o siopa’ ar-lein yn Gymraeg. Dyma beth mae cwsmeriaid eisiau fwy a mwy ac mae’n ddiddorol gweld amrywiaeth o gynnyrch Cymraeg bellach yn cael eu gwerthu ar-lein.”
Dywedodd y cyflwynydd Morgan Jones, “Mae’r iaith Gymraeg wedi rhoi cyfleoedd unigryw i mi. Mae gallu ymweld â rhai o stadiwms mwya’r byd, sefyll ochr yn ochr â rai o’r sêr mwyaf yn y byd pêl droed, ac yna gallu adrodd yn Gymraeg i gynulleidfa Gymraeg nôl adref sydd wrth eu boddau â phêl droed, fel minnau, yn rhoi pleser mawr i mi.”
Mewn adroddiad wedi’i gomisiynu gan Hunaniaith yn 2009 gan Dylan Bryn Roberts a Dr Enlli Thomas i ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg ymhlith plant ysgolion cynradd Gwynedd darganfu’r ymchwil fod y defnydd o’r Gymraeg yn amrywio’n sylweddol yn ystod cyfnodau ffurfiol ac anffuriol yr Ysgol. Cyhoeddwyd adroddiad i ddilyn ym mis Medi 2010 yn seiliedig ar ganlyniadau gwreiddiol yr ymchwil, a chyflwynwyd nifer o argymhellion er mwyn dylanwadu’n bositif ar arferion Iaith plant ac amlygu ei phwysigrwydd fel sgil allweddol.
Dywedodd Debbie Jones, Swyddog Hyrwyddo Iaith, Hunaniaith, “Sefydlwyd Hunaniaith yn 2009 fel partneriaeth strategol i arwain y maes cynllunio ieithyddol a hybu defnydd o’r iaith Gymraeg yng Ngwynedd.
“Mae cefnogaeth pobl mor adnabyddus yn hwb mawr i’r prosiect gan y bydd, gobeithio, yn ysbrydoli oedolion yn ogystal â phlant i ystyried pwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol yn ogystal â’r buddion sylweddol eraill a ddaw o’i siarad. Mewn un ffilm mae Elin Fflur yn nodi fod “siarad Cymraeg yn cŵl a ffynci”, a phwy ydw i i anghytuno! Serch hynny, mae angen i ni fel cynllunwyr ac ymarferwyr iaith ailedrych ar ein dull gweithredu er mwyn sicrhau y rhoddir sylfaen gadarn i’r Gymraeg i holl blant a phobl ifanc Gwynedd fel y gallwn helpu i sicrhau dyfodol disglair i’r iaith Gymraeg ac ieuenctid y sir.”