Mae newidiadau syml i’r ffordd mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu wedi arwain at arbedion ariannol sylweddol a lleihad yn ei ôl troed carbon.
Ers cyflwyno Cynllun Rheoli Carbon uchelgeisiol flwyddyn yn ôl, mae defnydd o ynni yn adeiladau’r Cyngor wedi gostwng o ddeg y cant ac o ganlyniad gwelwyd arbediad cyfalaf blynyddol o fwy na £120,000.
Er gwaethaf y gaeaf caled yn 2010/11 mae’r Cyngor wedi llwyddo i gwtogi faint o drydan a nwy sy’n cael ei ddefnyddio yn ei swyddfeydd, depos, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a chartrefi gofal drwy gyflwyno mesurau newydd megis gwella insiwleiddio, gwell rheolaeth o wresogyddion a gosod goleuadau newydd sy’n fwy effeithlon.
Mae adran TG y Cyngor hefyd wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau fod gweinyddwyr cyfrifiadurol yn cael eu rheoli yn effeithlon ac wedi cael gwared â systemau tymheru gwastraffus.
Gwelwyd newidiadau mewn canolfannau hamdden hefyd ble mae gorchuddion wedi eu gosod ar y rhan fwyaf o byllau nofio fel nad oes angen defnyddio ffans gwastraffus i atal anweddiad.
Mae gan y Cyngor gynlluniau eraill ar y gweill ac ar hyn o bryd yn edrych ar y posibilrwydd o fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddol ar nifer o safleoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Y dyddiau hyn rydym yn derbyn fod allyriadau carbon yn gyfrifol am newid hinsawdd a dyma yw’r bygythiad mwyaf i’n ffordd o fyw heddiw. Rydym yn teimlo cyfrifoldeb i greu Cyngor carbon isel gan obeithio y bydd hyn yn arwain at sir carbon isel.
“Rydw i’n falch iawn efo’r newidiadau sydd wedi eu cyflwyno a’r canlyniadau sydd i’w gweld. Mae’n dangos drwy wneud buddsoddiad bychan ymlaen llaw gallwn leihau faint o ynni rydym yn ei ddefnyddio a faint o garbon sy’n cael ei gynhyrchu. Does dim cost i rai o’r newidiadau rydym wedi eu cyflwyno dim ond mater o wneud pethau yn wahanol.
“Dyma sefyllfa ble mae pawb ar ei ennill - rydym yn arbed arian ar gyfnod economaidd dyrys yn ogystal â lleihau ein dylanwad ar yr amgylchedd naturiol.”
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i gynllun uchelgeisiol o leihau allyriadau carbon o 60% erbyn 2021. Mae hyn yn cynnwys cwtogi allyriadau o’i adeiladau gweithredol, gwastraff, goleuadau stryd, fflyd a theithio busnes o 30% erbyn 2015. Gall hyn arwain at arbediad blynyddol o £900,000.