Cynhelir wythnos o ddigwyddiadau yng Nghaernarfon cyn lansiad ymgyrch yr haf yn erbyn yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
Yn dechrau ar ddydd Llun 23 Mai, bydd Partneriaeth Diogelwch Ffyrdd Gwynedd sy’n cynnwys Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau ar y Maes er mwyn addysgu'r cyhoedd am beryglon a chanlyniadau gyrru tra byddwch o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu i gyd-fynd ag Ymgyrch yr haf yn erbyn yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau Cymru Gyfan sy'n cael ei chynnal gan Heddlu Gogledd Cymru yng Nghaernarfon ar ddydd Mercher 1 Mehefin.
Am wythnos gyfan cyn y lansiad swyddogol, bydd Bws Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi’i barcio ar y Maes a bydd cyfle i aelodau o'r cyhoedd siarad â staff sy'n cynrychioli Grŵp Diogelwch Ffyrdd Gogledd Cymru.
Meddai Rheolwr Diogelwch y Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Byddwn yn ymgysylltu â’r cyhoedd yn ystod yr wythnos ac yn eu haddysgu am ganlyniadau yfed a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
“Un ffordd effeithiol y byddwn yn atgyfnerthu’r neges ‘peidiwch ag yfed a gyrru’ yw dangos i bobl sut mae’n teimlo i fod yn feddw a pha mor beryglus y gall fod. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddefnyddio sbectol Amharu’r Golwg, neu ‘Sbectol Gwrw’ fel y cyfeirir ati. Mae’r sbectol unigryw hon yn ail-greu effeithiau'r amhariad gan gynnwys bod yn llai gwyliadwrus, wedi drysu, anallu i weld popeth yn iawn a methu â phenderfynu ar bellter pethau.
Ychwanegodd: “Drwy weithio mewn partneriaeth gallwn helpu pawb i fod yn fwy ymwybodol o sut y gall yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau ddinistrio bywydau."
Dywedodd Paul Scott, Rheolwr Tîm Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym yn falch o fod yn cefnogi’r gweithgareddau hyn cyn ymgyrch yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau’r haf. Bydd Swyddogion y Gwasanaeth Tân yn mynychu miloedd o wrthdrawiadau traffig y ffyrdd bob blwyddyn ac yn gweld rhai o'r canlyniadau erchyll sy’n digwydd o ganlyniad i gamgymeriadau syml a wneir gan bobl bob dydd. Rydym eisiau i bawb fod yn ymwybodol o sut y gall yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau ddinistrio bywydau.”
Yn ystod yr wythnos, bydd staff hefyd yn dangos sut mae offer profi anadl yn gweithio, sut bydd yr heddlu yn cynnal profion i weld os yw rhywun yn gyrru tra maent o dan ddylanwad cyffuriau (profion FIT) a tuag at ddiwedd yr wythnos bydd cyfle i brofi ychydig o goctels di-alcohol.
Bydd taflenni yn cynnwys manylion am y cosbau y gallai pobl eu hwynebu os y ceir nhw’n euog o droseddau yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau hefyd yn cael eu dosbarthu a bydd Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu yn siarad am sut y gall gwahanol sylweddau anghyfreithlon amharu ar eich sgiliau gyrru.
Bydd staff ar gael ar y Maes o 9.30am ymlaen drwy gydol yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 23 Mai.