Daeth ffrwyth llafur dwy flynedd o waith rhagbaratoi at ei gilydd pan gadarnhawyd cefnogaeth ariannol o £700,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i wedd weithredol cynllun Partneriaeth Tirlun Llŷn. Mae prosiect Partneriaeth Tirlun Llŷn wedi ei lansio yn ddiweddar mewn digwyddiad ym Mhlas Glyn y Weddw, Llanbedrog.
Gyda chyfraniadau sylweddol eraill gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Gwynedd drwy Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Llŷn, bydd y prosiect yn dod a buddsoddiad sydd werth £1.7 miliwn i’r ardal dros gyfnod o dair blynedd.
Mae’r prosiect yma yn torri tir newydd yn Llŷn gan ei fod wedi tynnu at ei gilydd nifer o asiantaethau amgylcheddol, statudol, addysgol a chymunedol i gydweithio er lles yr ardal.
Mae’r trafodaethau yng nghyfarfodydd y bartneriaeth, ac ymgynghoriadau cyhoeddus gyda’r gymuned ehangach wedi arwain at ddatblygu rhaglen waith sydd wedi ei theilwra i ymateb i anghenion amgylcheddol, cymunedol ac economaidd Llŷn.
Daeth yn glir o’r cychwyn cyntaf , drwy’r ymgynghoriadau cyhoeddus bod pobl Llŷn yn gwerthfawrogi harddwch naturiol yr ardal a’r amrywiaeth mewn cynefinoedd a thirffurfiau mewn ardal mor fychan. Amlygwyd hefyd y diddordeb mawr yn nhreftadaeth ddiwydiannol yr ardal, a balchder mawr yn yr iaith a diwylliant Cymraeg sy’n rhan annatod o fywyd yr ardal.
Dywedodd Meinir Jones Cadeirydd Partneriaeth Tirlun Llŷn:
“Ar ôl y cyfnod hir o baratoi rydw i’n edrych ymlaen i’r prosiect gychwyn go iawn. Un o’r pethau mwyaf cadarnhaol yw sut mae’r Prosiect wedi dod ag asiantaethau a mudiadau yn Llŷn at ei gilydd i weithredu ar gynlluniau rydyn ni i gyd yn cytuno arnynt. Rwy’n arbennig o gyffrous am yr elfen o hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan greiddiol o hynodrwydd y dreftadaeth yn Llŷn a’r pwyslais sydd yn y prosiect ar ddiogelu’r dreftadaeth honno.”
Mae aelodau Partneriaeth Tirlun Llŷn yn teimlo bod treftadaeth yn rhywbeth byw iawn yn yr ardal ac felly mae llawer o’r gwaith fydd yn mynd ymlaen drwy’r cynllun yn adlewyrchu’r dyhead i addysgu a rhannu gwybodaeth am y rhinweddau yma gyda phobl leol ac ymwelwyr.
Mae’r rhaglen waith sydd wedi ei datblygu yn rhannu’n bedwar prif faes gwaith, sef:
- Diogelu cynefinoedd ac asedau hanesyddol
- Sicrhau bod cymunedau yn falch o’u treftadaeth ddiwylliannol
- Gwella mynediad a chyfleoedd i ymweld a phrofi’r dreftadaeth ddiwylliannol
- Gwella sgiliau’r gymuned i gynnal a gwella’r dirwedd dreftadol
Y prif brosiectau fydd yn cael eu gweithredu yn y flwyddyn gyntaf yw:
- Cynllun i adnewyddu dau fwthyn traddodiadol yn Rhiw
- Gwaith rheoli rhostiroedd arfordirol Llŷn
- Gwŷl Arfordirol Llŷn
- Gwŷl y Bryngaerau yn Felin Uchaf, Rhoshirwaun
- Prosiect yn edrych ar hanes morwrol yr ardal
- Gwaith i greu nifer o gylchdeithiau lleol fydd yn cysylltu i lwybr arfordir Llŷn
- Nifer o gyfleon hyfforddi gydag achrediad mewn sgiliau gwledig
- Gweithgareddau sy’n cynnig cyfleon i wirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chadw Cymru’n Daclus
- Prosiect i gryfhau’r cysylltiad rhwng Enlli â’r Tir Mawr
- Gweithgareddau i annog dysgwyr i ymarfer eu Cymraeg a dod i adnabod yr ardal
Bydd y cynllun yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gwynedd, gydag Arwel Jones yn gweithio fel rheolwr prosiect yn arolygu a gweithredu’r rhaglen waith gyda chefnogaeth y bartneriaeth. Bydd llawer mwy o wybodaeth am y cynllun yma yn ymddangos ar wefan AHNE Llŷn wrth i’r cynllun ddatblygu.
Ychwanegodd Dei Tomos aelod o Bwyllgor Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:
“Mae ganddon ni yng Nghymru dreftadaeth tirluniol mor gyfoethog ac rydyn ni’n tueddu i’w gymryd yn ganiataol, ond mae’n hynod o bwysig ar yr adeg yma o newid cymdeithasol ac economaidd, ein bod yn sicrhau fod y cymeriad unigryw’n cael ei gadw a’r unig ffordd i wneud hyn yw buddsoddi yn y tirlun a’r bobl, trwy brosiectau tebyg i hwn.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ffurfio partneriaethau hirdymor gan roi i’r bobl leol yr offer sydd eu hangen arnyn nhw i amddiffyn yr amgylchedd naturiol pwysig yma. Bydd y grant yn sicrhau ei fod yn cael ei gadw a’i reoli ar gyfer cenedlaethau i ddod a chadw’r cymunedau gwledig bychain hyn yn fyw.”