Bydd dau sesiwn gwybodaeth cyhoeddus yn cael eu cynnal ym Mhorthmadog a Chriccieth ar 25 a 26 Mai er mwyn darparu gwybodaeth i drigolion am y ffordd mae gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn yn cael eu moderneiddio yn yr ardal.
Bydd y sesiynau galw heibio anffurfiol yn gyfle i ddysgu mwy am yr amrywiaeth o gynlluniau y mae Cyngor Gwynedd a phartneriaid yn cynnwys Age UK a Gofal a Thrwsio yn eu datblygu er mwyn cefnogi pobl hŷn i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r cynlluniau hyn yn amrywio o’r rhaglenni blaengar Teleofal a Galluogi i’r Tai Gofal Ychwanegol y mae’r Cyngor mewn partneriaeth gyda Chymdeithasol Tai Eryri yn edrych i’w ddatblygu ym Mhorthmadog.
Bydd y digwyddiadau gwybodaeth yn cael eu cynnal ar:
- 25/5/11 yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog (3pm – 7pm)
- 26/5/11 yn Neuadd Goffa, Criccieth (3pm – 7pm)
Dywedodd Dafydd Lewis, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd:
“Yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd y niferoedd o bobl hŷn sy’n byw yng Ngwynedd yn cynyddu yn sylweddol. Ar yr un pryd, nid yw’r ffordd draddodiadol o ofalu am bobl mewn cartrefi preswyl yn gynaliadwy ac mae pobl hyn lleol wedi dweud yn glir mai eu hawydd yw darparu gwasanaethau a fydd yn eu galluogi i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain ac i fyw yn annibynnol.
“Bydd y digwyddiadau cyhoeddus yma yn ardal Porthmadog yn cynnig cyfle i aelodau’r cyhoedd ddysgu mwy am weledigaeth y Cyngor i ddatblygu gwasanaethau gofal modern ar gyfer pobl hŷn yn yr ardal.”
Ychwanegodd Walis George, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Eryri:
“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymdeithas Tai Eryri wedi magu profiad ymarferol o ddatblygu cyfleusterau Tai Gofal Ychwanegol. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd ar gynlluniau cyffrous ar gyfer ardal Porthmadog ac rydym yn edrych ymlaen at glywed barn trigolion lleol yn y sesiynau galw heibio anffurfiol.”
Bydd swyddogion Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai Eryri ar gael yn y sesiynau galw heibio i ddarparu gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau, cysylltwch Uned Gofal Cwsmer Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd ar 01286 679549, neu e-bostio: gcgc@gwynedd.gov.uk