Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Mai
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mai |
 

Adrefnu ysgolion yn nalgylch y Berwyn

Mae cynghorwyr Gwynedd wedi pleidleisio i adrefnu addysg yn nalgylch y Berwyn mewn penderfyniad a allai arwain at fuddsoddiad o £10.2 miliwn yn ysgolion y dalgylch.

Mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn ar 12 Mai 2011, pleidleisiodd cynghorwyr o blaid sefydlu Campws Dysgu Gydol Oes yn nhref Y Bala i gymryd lle Ysgolion y Berwyn, Beuno Sant a Bro Tegid yn y dref, yn ogystal ag uwchraddio Ysgol O M Edwards a buddsoddi yn Ysgolion Ffridd y Llyn a Bro Tryweryn.

Yn yr un cyfarfod, pleidleisiodd cynghorwyr o blaid cynnig i gau Ysgol y Parc erbyn 31 Awst 2012, gan ddarparu lleoedd i ddisgyblion y Parc yn Ysgol O. M. Edwards, Llanuwchllyn. Ar hyn o bryd mae 19 o ddisgyblion yn mynychu Ysgol y Parc sydd wedi ei leoli tair milltir oddi wrth Ysgol O M Edwards.

Mae’r penderfyniadau hyn yn dilyn cyfnod o drafodaeth fanwl yn y dalgylch ynghyd a’r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd yn ystod mis Ionawr a Chwefror.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno cais i Lywodraeth y Cynulliad am £7.7 miliwn tuag at gynllun £10.2 miliwn ar gyfer adrefnu ysgolion dalgylch y Berwyn. Mae’r Cyngor yn disgwyl ymateb gan Lywodraeth y Cynulliad yn ystod haf 2011.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 12/05/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]