Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Mai
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mai |
 

Drama yn dangos nad ydi hi byth yn rhy hwyr i ddysgu

Mae cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn yn gobeithio y bydd drama newydd yn ysbrydoli oedolion o bob oed i ddysgu sgiliau newydd.

Mae'r cynghorau wedi cydweithio er mwyn comisiynu'r fenter theatr Shimli i greu drama newydd "Byth rhy hwyr".

Bydd y cynhyrchiad dwyieithog yn teithio o gwmpas Gwynedd ac Ynys Môn yn ystod Wythnos Addysg Oedolion (16-20 Mai) – mynediad am ddim. Mae'n rhan o ŵyl wythnos o hyd ar gyfer hybu addysg i oedolion, sy'n cael ei gydlynu gan NIACE Dysgu Cymru a'i gefnogi gan Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

Wedi ei leoli mewn caffi lleol, mae "Byth rhy hwyr" yn dilyn tri pherson sy'n cael eu taflu gyda'i gilydd yn dilyn digwyddiad cyffrous yn eu tref.  Mae'r cymeriadau, sy'n cael ei chwarae gan Morfudd Hughes, Siôn Trystan a Mared Elliw Huws, yn dysgu mwy am ei gilydd ac yn sylweddoli sut mae'r cyfarfod hap a siawns yn troi'n fodd o gefnogi ac ysbrydoli.

Bydd gan y gynulleidfa hefyd ran i chwarae yn y cynhyrchiad, wrth rannu eu teimladau a'u profiadau am ddysgu mewn gweithdy yn dilyn y perfformiad.

Mae Wythnos Addysg i Oedolion yn ŵyl blaenllaw sy'n annog rhagor o bobl i gymryd y cam cyntaf yn ôl i addysg.  Mae'r wythnos hefyd yn ddathliad o'r nifer cynyddol o oedolion yng Nghymru sydd wedi cyfoethogi eu bywydau ac wedi gwella ei rhagolygon drwy addysg a hyfforddiant.

Bydd cynhyrchiad Shimli o "Byth rhy hwyr" yn cael ei lwyfannu yn y lleoliadau canlynol – mynediad am ddim:

  • Dydd Llun, 16 Mai, 10am, Neuadd Feed My Lambs, Caernarfon
  • Dydd Llun, 16 Mai, 2pm, Canolfan Talysarn
  • Dydd Mercher, 18 Mai, 10am, Y Ganolfan, Porthmadog
  • Dydd Mercher, 18 Mai, 2pm, Ty Siamas, Dolgellau
  • Dydd Gwener, 20 Mai, 2pm, Ty Cegin, Maesgeirchen

Cafodd menter theatr Shimli ei sefydlu gan Siwan Llynor a Mared Elliw Huws.  Roedd y ddwy yn gyfrifol am sgriptio "Byth rhy hwyr" ac mae Siwan hefyd yn cyfarwyddo'r cynhyrchiad.

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Addysg i Oedolion a digwyddiadau yn eich ardal chi, cysylltwch ag Alun Williams, Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth Cyngor Gwynedd ar 01286 679465 neu ebostio: AlunHughesWilliams@gwynedd.gov.uk

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 11/05/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]