Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Ebrill
 

Cyfle i drafod ymestyn Lôn Las Ogwen

Bydd cyfle i drigolion Dyffryn Ogwen gael dweud eu dweud am y syniad o ymestyn llwybr adnabyddus Lôn Las Ogwen o Dregarth i Fethesda.

Mi fydd grŵp llywio sy’n cynnwys aelodau o’r cyngor cymuned lleol, cynghorwyr lleol, swyddogion y Cyngor ac asiantaethau eraill sydd wedi dod at ei gilydd i ddatblygu’r syniad yn cynnal ymgynghoriad agored lle bydd cyfle i drigolion lleol fynegi eu barn a gofyn cwestiynau i swyddogion Cyngor Gwynedd ac aelodau’r grwp.

Yn yr ymgynghoriad, bydd arddangosfa yn dangos lleoliad posib llwybr beicio, cerdded a marchogaeth ceffyl, ond wrth gwrs mae peth ffordd i fynd gyda’r cynllunio cyn y bydd modd cychwyn ar unrhyw waith.

Bydd arddangosfa yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Tregarth ar ddydd Iau, 14 Ebrill (3pm – 7:30pm). Yn ogystal, bydd yr arddangosfa yn symud i Neuadd Ogwen ar 15 Ebrill (3pm – 7:30pm).

Dywedodd Mark Balaam, Uwch Warden Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd: “Mae’r syniad o greu llwybr rhwng Tregarth a Bethesda yn un cyffrous iawn ac mae’n bleser gennym fel Cyngor gydweithio gyda’r gymuned i ddatblygu syniadau ar gyfer cynllun o’r fath.

“Mae teithio mewn ffordd gynaliadwy yn bwysig iawn ac rydym yn credu y byddai cysylltu cymunedau Dyffryn Ogwen a Lôn Las Ogwen yn cynnig cyfleoedd arbennig ac unigryw i drigolion lleol.”

Os nad yw’n bosib i chi ymweld â’r arddangosfa ar y dyddiadau uchod, bydd cyfle i chi daro golwg drostynt yng Nghanolfan Hamdden Plas Ffrancon ym Methesda rhwng 16 a 21 Ebrill 2011.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mark Balaam, Uwch Warden Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd ar 01286 679281.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 06/04/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]