Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2011 > Ebrill
 

Dyfodol llwyddiannus i bobl ifanc Gwynedd

Roedd annog agwedd bositif a helpu pobl ifanc Gwynedd i ddatblygu sgiliau allweddol er mwyn llwyddo yn eu cymunedau yn negeseuon allweddol mewn digwyddiad diweddar yn Llanberis fel rhan o brosiect arloesol Llwyddo’n Lleol.

Daeth pobl ifanc o ardal Arfon at ei gilydd i’r digwyddiad cyntaf a gynhaliwyd i hyrwyddo cyfleoedd gyda sectorau amrywiol yng Ngwynedd. Cymrodd disgyblion o Ysgolion Tryfan, Brynrefail, Syr Hugh Owen a Dyffryn Nantlle ran yn y digwyddiad hwn a drefnwyd gan Llwyddo’n Lleol a oedd yn canolbwyntio ar y sector ynni.

Cafodd y disgyblion y cyfle i gyfarfod â chyflogwyr allweddol, yn cynnwys First Hydro, Magnox Ltd a’r Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer ynni, yn ogystal â chlywed gan Gareth Jones, perchennog cwmni Carbon Zero am y cyfleoedd o gychwyn busnes yn y sector lleol pwysig hwn. Fel rhan o’r digwyddiad, cafodd y bobl ifanc hefyd y cyfle i roi eu sgiliau ymarferol i waith drwy ddatblygu eu tyrbinau gwynt eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Lewis, Arweinydd Portffolio Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Mae Llwyddo’n Lleol yn brosiect arloesol sydd yn anelu i annog ein pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a llwyddo yn eu cymunedau eu hunain.

“Rhoddodd y digwyddiad cyntaf hwn y cyfle i’r bobl ifanc hyn i ddysgu mwy am un o’r sectorau pwysicaf yn y sir, yn ogystal â datblygu sgiliau ymarferol. Mae’n hynod bwysig ein bod yn ymgysylltu â phobl ifanc a sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r cyfoeth o gyfleoedd sydd gan Wynedd i’w gynnig a’r rhan bwysig y gallant eu chwarae yn nyfodol eu cymunedau eu hunain.”

Bydd digwyddiadau pellach i amlygu’r potensial o fewn sectorau megis gweithgareddau awyr agored, diwydiannau creadigol a’r economi werdd yn cael eu cynnal ar hyd a lled Gwynedd yn y misoedd i ddod.

Hefyd fel rhan o brosiect Llwyddo’n Lleol, mae gweithdai amrywiol yn cael eu cynnal gyda phobl ifanc drwy’r sir er mwyn creu syniadau busnes posibl. Mae cefnogaeth ar gael gan Gyngor Gwynedd a phartneriaid eraill i helpu datblygu syniad busnes gyda bwrsariaeth o hyd at £1,000 ar gael i dalu am gostau i gael y busnes ar ei draed.

Mae modiwlau entrepreneuriaeth hefyd yn cael eu cynnal yn ysgolion a cholegau Gwynedd fel rhan o brosiect Llwyddo’n Lleol. Mae’r modiwlau cydnabyddedig hyn yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau entrepreneuriaeth allweddol.

Mae Llwyddo’n Lleol yn brosiect £3.8 miliwn sy’n cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd sydd yn helpu pobl ifanc yn ardal gogledd orllewin Cymru i ddatblygu a llwyddo’n eu cymunedau eu hunain. Mae’n cael ei gefnogi yn lleol gan Gynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a Dinbych. Mae’n targedu pobl 11-19 mlwydd oed.

Mae’r prosiect wedi cael ei wneud yn bosibl gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeiriant Ewrop drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Am fwy o wybodaeth am Llwyddo’n Lleol yng Ngwynedd, e-bostiwch llwyddonlleol@gwynedd.gov.uk neu ffoniwch (01286) 679674



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 04/04/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]