Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Addysg a Dysgu > Ysgolion > Presenoldeb ac ymddygiad
Prif Gategori : Addysg a Dysgu
Rhiant : Ysgolion
 

Bwlio

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlio, dylai’r ysgol fod â pholisïau mewn lle i’ch cefnogi. Mae nifer o sefydliadau hefyd yn gallu cynnig gwybodaeth a chymorth os oes angen, am ragor o wybodaeth ewch i wefan Gwynedd-ni.

  • gall bwlio ddigwydd i unrhyw un o unrhyw oedran
  • rydym yn credu bod gan bob unigolyn yr hawl i fod yn saff
  • nid yw bwlio yn rhan dderbyniol o dyfu i fyny
  • gall wneud i bobl ifanc deimlo yn unig, anhapus ac ofnus


Beth yw bwlio?

Bwlio yw. . .

  • ymddygiad niweidiol bwriadol sy’n parhau dros gyfnod o amser
  • gall fod yn llafar, corfforol neu emosiynol
  • gall ddigwydd yn yr ysgol neu y tu allan i’r ysgol

Mae bwlio yn golygu bod rhywun yn defnyddio eu pŵer dros rywun arall.

Gall olygu:

  • bygythiadau a thrais corfforol
  • galw pobl yn enwau
  • gwneud niwed i eiddo
  • peidio â chynnwys disgyblion mewn gweithgareddau cymdeithasol yn fwriadol
  • lledaenu straeon
  • negeseuon tecst neu e-bost cas

Nid bwlio yw. . .

  • ffraeo gyda ffrindiau
  • dadleuon dros dro
  • profocio achlysurol
  • cweryla

 

Beth ddylwn i ei wneud os yw fy mhlentyn yn cael ei fwlio?

Nid eich plentyn chi yw’r unig un

  • mae 1 ym mhob 2 o ddisgyblion yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio yn ystod tymor ysgol
  • mae bron i hanner disgyblion ysgol uwchradd yn teimlo nad yw eu hathrawon yn ymwybodol bod bwlio yn mynd ymlaen
  • dros y bum mlynedd ddiwethaf, bwlio yw’r rheswm mwyaf cyffredin dros ffonio Childline.

Siarad gyda’ch plentyn
Efallai na wnaiff eich plentyn ddweud wrthych ei fod yn cael ei fwlio ond efallai y bydd yn ddistaw, i’w weld yn anhapus a ddim eisiau mynd i’r ysgol.

Ceisiwch ddarganfod a oes problem drwy siarad gyda nhw am:

  • eu gwaith ysgol
  • eu ffrindiau
  • beth maent yn ei wneud yn ystod amser chwarae ac amser cinio
  • unrhyw broblemau neu bryderon sydd ganddynt

Gall darganfod bod eich plentyn yn cael ei fwlio fod yn anodd, ond ceisiwch beidio â chynhyrfu a siaradwch efo nhw am yr hyn sy’n digwydd:

  • gwnewch nodyn o’r hyn y maent yn ddweud sydd wedi digwydd; pwy oedd yno, lle, pryd a pha mor aml
  • cysurwch nhw eu bod wedi gwneud y peth iawn yn dweud wrthych chi
  • dywedwch wrthynt am ddweud wrth athro am y bwlio ar unwaith
  • cysylltwch gydag ysgol eich plentyn ynglŷn â’r bwlio a gofynnwch am weld eu polisi bwlio er mwyn i chi fod yn ymwybodol o’r hyn fydd yn digwydd 
  • cadwch mewn cysylltiad gyda’r ysgol; rhowch wybod iddynt os yw’r bwlio yn dod i ben neu’n dal i ddigwydd
  • os yw’r bwlio yn ddifrifol, cysylltwch gyda’r heddlu; maent yn cymryd unrhyw adroddiadau o fwlio o ddifrif.

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlio drwy negeseuon tecst, e-bost neu ar y rhyngrwyd

  • gofynnwch iddynt ddangos unrhyw negeseuon y maent wedi eu derbyn i chi
  • dywedwch wrthyt am beidio ymateb i fwli ar y rhyngrwyd, nac ymateb i negeseuon tecst ymosodol
  • gwnewch yn siŵr mai dim ond sgyrsiau ar-lein sydd yn cael ei harchwilio y maent yn eu defnyddio
  • os yw bwlio yn dechrau yn ystod sgyrsiau ar-lein, dywedwch wrthynt am roi’r gorau i’r sgwrs yn syth a dweud wrthych chi
  • dywedwch wrthynt am beidio â rhannu eu manylion cyswllt personol ar-lein

 

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n meddwl fod fy mhlentyn i yn bwlio plant eraill?
Gall rhywun fod yn fwli heb hyd yn oed sylweddoli hynny. Gall eich plentyn fod yn fwli damweiniol drwy:

  • anfon neges tecst cas am rywun i rywun arall
  • chwerthin am sylwadau annifyr
  • mae’n haws bod yn fwli damweiniol wrth ddefnyddio e-bost, negeseuon tecst ac ati gan nad yw’n gwneud dim yn uniongyrchol

Os yw eich plentyn yn bwlio

  • efallai eu bod yn dynwared ymddygiad eraill yn y teulu, y gymuned neu ffrindiau
  • gall eu ffrindiau fod yn eu hannog i fwlio
  • gall eich plentyn fod yn mynd trwy gyfnod anodd ac felly’n ymddwyn mewn ffordd ymosodol tuag at eraill

Er mwyn atal eich plentyn rhag bwlio

  • ceisiwch annog eich plentyn i gyfaddef beth y maent yn ei wneud – bydd yn anodd iddynt gyfaddef eu bod yn gwneud rhywbeth o’i le
  • eglurwch i’ch plentyn nad yw’r ffordd y maent yn ymddwyn yn dderbyniol a’i fod yn gwneud i eraill deimlo’n anhapus
  • ceisiwch annog eich plentyn i ymddiheuro i’r plentyn y maent wedi ei frifo
  • dangoswch i’ch plentyn sut i chwarae gydag eraill heb fwlio
  • cysylltwch gydag ysgol eich plentyn er mwyn trafod sut y gallwch weithio gyda’ch gilydd er mwyn diwedd ar y bwlio
  • gofynnwch i’ch plentyn sut y mae pethau yn yr ysgol
  • rhowch ganmoliaeth i’ch plentyn pan maent yn cydweithredu ac yn garedig gydag eraill
  • ceisiwch annog eich plentyn i helpu eraill sy’n cael ei bwlio a’u hannog i ddweud wrth athro neu oedolyn y maent yn ymddiried ynddynt


Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 25/05/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]