Mae busnesau o bob cwr o Wynedd wedi dod at ei gilydd ar gyfer lansiad swyddogol Wythnos a Gwobrau Busnes Gwynedd, a fydd yn digwydd rhwng 23 – 27 Mai 2011.
Ymhlith y gynulleidfa roedd enillwyr blaenorol Gwobrau Busnes a ddaeth ynghyd er mwyn dathlu eu llwyddiannau unwaith eto, ac i helpu lansio ymgyrch 2011 yn awyrgylch greadigol Galeri Caernarfon.
Tawelwyd yr ofnau ynglŷn â sefyllfa’r economi gan yr awyrgylch bositif a brwdfrydedd y rhai oedd yn bresennol, gan ddechrau’r gystadleuaeth newydd ar nodyn cadarnhaol. Mae 13 o gategorïau gwobrwyo gwahanol, a gall ceisiadau gael eu gwneud drwy’r wefan www.wythnosbusnesgwynedd.co.uk
Y prif siaradwr oedd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd.
Dywedodd: “Mae Wythnos Fusnes Gwynedd yn gyfle gwych i hyrwyddo a dathlu’r nifer eang o fusnesau llwyddiannus sy’n gweithredu ar hyd a lled y sir. Bellach yn ei chweched flwyddyn, mae’r digwyddiad wedi dod yn ffefryn amlwg yng nghalendr busnes Gwynedd.”
Eleni, gwelir dychwelyd Wobrau Busnes Gwynedd, a gynhelir bob dwy flynedd, “Mae’r gwobrau yn gyfle gwych i godi proffil eich busnes,” ychwanegodd y Cynghorydd Edwards.
“Oherwydd bod safon yr enwebiadau yn 2009 mor aruthrol o uchel does dim syndod ein bod ni’n gyffrous iawn am y gystadleuaeth eleni. Mae cymryd rhan yn gyfle am gydnabyddiaeth allanol am eich gwaith.”
Dywedodd cyn Person Busnes y Flwyddyn Gwynedd, Stephen Bristow, o barc antur Gelli Gyffwrdd, fod y wobr wedi bod yn “ysgogiad gwych” i’w weithlu.
Ychwanegodd, “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill y wobr. Mae cael cydnabyddiaeth ein cymheiriaid ac ein cyd-weithwyr yn llwyddiant enfawr.”
Dywedodd Mr Bristow, a agorodd Gelli Gyffwrdd gyda’i wraig Andrea ym 1993 fel canolfan addysg amgylcheddol, fod y profiad wedi bod o fudd mawr.
Meddai: “Rydym wedi gweithio am 18 mlynedd yn adeiladu a datblygu’r parc, felly mae ennill wedi bod yn bositif iawn, ac yn gydnabyddiaeth braf o’r holl waith caled.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Edwards, “Yn ogystal â bod yn llwyfan i ddathlu’r enghreifftiau gorau o lwyddiannau ymhlith busnesau’r sir, bydd yr Wythnos Fusnes eleni yn gymorth i fusnesau Gwynedd gryfhau mewn cyfnod heriol. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn digwydd ar hyd a lled y sir, â chyfleoedd rhwydweithio a chymorth a chyngor ymarferol ar gael.
“Rydym yn annog holl fusnesau annibynnol sydd wedi eu lleoli yng Ngwynedd i ymgeisio. Fel oedd yr achos dwy flynedd yn ôl, bydd y beirniaid yn edrych am lwyddiant arbennig a photensial am dwf, yn ogystal â thystiolaeth o gyfraniad y busnesau i gynaladwyedd yr economi, y gymuned a’r amgylchedd yng Ngwynedd.”
Mae calendr llawn o’r hyn fydd yn digwydd ar hyd a lled y sir drwy gydol yr wythnos, a rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau ar gael ar wefan Wythnos Busnes Gwynedd, www.wythnosbusnesgwynedd.co.uk