Bydd gwaith celf gan ddisgybl ysgol o Dywyn yn cael lle blaenllaw ar y rhifyn nesaf amserlen trafnidiaeth gyhoeddus Cyngor Gwynedd.
Cafodd ddisgyblion o ardal Tywyn o’r sir gyfle i gystadlu mewn cystadleuaeth i’w llun nhw gael ei ddefnyddio ar gyfer tudalen flaen rhifyn yr haf o amserlen trafnidiaeth gyhoeddus Cyngor Gwynedd. Daeth Erin Roberts, disgybl Blwyddyn 4 yn Ysgol Penybryn, Tywyn i’r brig.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Llongyfarchiadau mawr i Erin ac i bob un o’r plant fu’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth - roedd safon y gwaith yn uchel iawn. Rydym yn falch iawn y bydd llun Erin yn ymddangos ar rifyn haf yr amserlen, ac yn gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r amrywiaeth o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael yma yng Ngwynedd.”
Mae Erin yn derbyn tocyn llyfr gwerth £20, gydag Ysgol Penybryn, Tywyn hefyd yn derbyn tocyn gwerth £50.
Bydd y rhifyn haf o’r amserlen, a fydd yn weithredol o 17 Ebrill, yn cael ei ddosbarthu yn eang yn ystod yr wythnosau nesaf. Am ragor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yng Ngwynedd, ewch i: www.gwynedd.gov.uk/cludiantcyhoeddus