Mae gan nifer o glybiau a sefydliadau chwaraeon o bob cwr o Wynedd reswm i ddathlu ar ôl derbyn cymorth ariannol o gronfa arbennig.
Trwy gynllun Cist Gymunedol Gwynedd, mae wyth clwb wedi rhannu cyfanswm o £6,162 rhyngddynt er mwyn hyrwyddo cadw’n heini neu wella adnoddau presennol.
O rygbi i ddawnsio stryd, mae’r Gist yn cefnogi chwaraeon o bob math ar hyd a lled y sir.
Dywedodd Sally Lloyd-Davies, Cadeirydd Pwyllgor Cist Gymunedol Gwynedd:
“Mae ein clybiau a sefydliadau chwaraeon yn chwarae rhan allweddol yn ein cymunedau ar draws Gwynedd. Yn ogystal â datblygu pob math o sgiliau, mae’r clybiau yn rhoi’r cyfle i drigolion Gwynedd gadw’n heini a gwneud ffrindiau newydd, felly maent yn rhan allweddol o’n cymunedau.
“Braf yw gweld wyth clwb yn elwa o’r rownd ddiweddaraf o gronfa’r gist gymunedol. Mae hyn yn dangos bod y Cyngor yn parhau i weld gwerth clybiau chwaraeon er mwyn datblygu a meithrin sgiliau.”
Mae wyth clwb a sefydliad chwaraeon wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn:
Clwb Pêl Rwyd Dolgellau - Yn bwriadu defnyddio’r arian er mwyn i dri aelod fynd ar gwrs hyfforddi.
Clwb Rygbi Caernarfon - Bydd cefnogaeth ariannol yn galluogi nifer o’r aelodau i fynd ar gwrs cymorth cyntaf, pum aelod ar gwrs hyfforddi lefel 1 a thri aelod ar gwrs hyfforddi lefel 2.
Clwb Pêl droed Yr Antelope - Bwriad y clwb yw defnyddio’r arian er mwyn anfon dau aelod ar gyrsiau hyfforddi arweinwyr pêl-droed, cymorth cyntaf a gwobr gôl geidwad..
Grŵp Cefnogi Asperger / Awtistiaeth Gwynedd a Môn -
Bydd arian o’r gronfa yn mynd tuag at gynnig sesiynau nofio i blant a phobl ifanc sydd â diagnosis o awtistiaeth. Bydd yr arian yn cyfrannu tuag at logi’r pwll nofio a chostau’r hyfforddwr.
Hyfforddiant Ail gyfle – Cais am grant i sefydlu grŵp ffitrwydd o fewn cymuned ward Peblig yng Nghaernarfon .
Clwb Hoci Pwllheli - Yn bwriadu defnyddio’r arian er mwyn i dri aelod fynd ar gwrs hyfforddi lefel 1 ac i un aelod i fynd ar gwrs hyfforddi lefel 2.
Gwerin y Coed Dwyryd – Bydd arian o’r gronfa yn mynd tuag at gostau sefydlu Clwb dawnsio stryd newydd i blant a phobl ifanc yn ardal Penrhyndeudraeth.
Clwb Criced Pwllheli - Am ddefnyddio arian y gronfa i ariannu addysg ar gyfer hyfforddwyr a chostau mentora hyfforddwyr newydd.
Am ffurflen gais am gronfa Cist Gymunedol Gwynedd cysylltwch â Gwasanaeth Datblygu Chwaraeon Cyngor Gwynedd ar (01758) 704010. Er mwyn derbyn arweiniad am y broses ymgeisio cysylltwch ag Elwyn Jones, Rheolwr Datblygu Chwaraeon Cyngor Gwynedd ar (01758) 704067 neu Rhian Dobson, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cynorthwyol Cyngor Gwynedd ar (01758) 704057.
Amserlen cyfarfodydd 2011/2012 Panel Cist Cymunedol Gwynedd a’r dyddiadau cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi eu cwblhau.
- Cyfarfod, 4 Ebrill 2011 / Dyddiad cau, 14 Mawrth 2011
- Cyfarfod, 6 Mehefin 2011 / Dyddiad cau, 16 Mai 2011
- Cyfarfod11 Gorffennaf 2011 / Dyddiad cau, 20 Mehefin 2011
- Cyfarfod 5 Medi 2011 / Dyddiad cau, 15 Awst 2011
- Cyfarfod 7 Tachwedd 2011 / Dyddiad cau, 17 Hydref 2011
- Cyfarfod 6 Chwefror 2012 / Dyddiad cau, 16 Ionawr 2012