Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn cydweithio gyda thîm Ymddiriedolaeth y Tywysog Coleg Menai i wella ansawdd yr amgylchedd yn ardal Porthmadog.
Bu’r tîm yn cynnal prosiect cymunedol mewn partneriaeth gyda thîm Trefi Taclus ac Adran Forwrol Cyngor Gwynedd. Gwnaed llawer o waith da gan gynnwys codi ysbwriel o ardal Cob Crwn a thraeth Morfa Bychan; clirio lluwchfeydd tywod; ail beintio meinciau cyhoeddus a pheintio cwch Ymddiriedolaeth yr Harbwr.
Dywedodd Iona Thomas, Swyddog Trefi Taclus Cyngor Gwynedd:
“Rydym yn falch iawn o fedru cefnogi’r prosiect cymunedol yma fel rhan o’r fenter Trefi Taclus, ag yn gobeithio bydd y gymuned gyfan yn elwa o’r gwaith sydd wedi ei gynnal yn yr ardal.”
Ychwanegodd Gethin Jones, Arweinydd Tîm Ymddiriedolaeth y Tywysog:
“Mae cefnogaeth Trefi Taclus ac Uned Morwrol Cyngor Sir Gwynedd wedi helpu llawer arnom i gyrraedd ein targedau uchelgeisiol. Hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniadau gwerthfawr o ran offer ac amser. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio eto yn y dyfodol agos petai’r cyfle yn codi.”
Meddai Steven Morton, myfyriwr fu’n cymryd rhan yn y prosiect:
“Mi fuon ni yn casglu ‘sbwriel o Cob Crwn, symud tywod a hel sbwriel yn Morfa Bychan. Mi wnes i hoffi hynny gan fod gennyf ddiddordeb mewn bywyd gwyllt a’r môr.”
Ychwanegodd Claire Worner, myfyrwraig arall fu’n cymryd rhan yn y prosiect:
“Rwyf wedi mwynhau fy amser yn cymryd rhan yn y prosiect cymunedol. I gychwyn roeddwn yn betrusgar, ond roedd yn brofiad o weithio gyda’r tîm yn hwyl.”
Daw'r grant Trefi Taclus yn sgil cronfa gwella’r amgylchedd Llywodraeth y Cynulliad ac mae Cyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cadwch Gymru’n Daclus. Nod y cynllun yw cefnogi mentrau amgylcheddol megis ymgyrchoedd casglu sbwriel neu ladd chwyn, gwneud mannau cyhoeddus megis tir agored yn llefydd brafiach, plannu blodau, gwella mynediad, creu gerddi natur er mwyn hyrwyddo ansawdd yr amgylchedd lleol.
Am chwaneg o wybodaeth am y cynllun Trefi Taclus Cyngor Gwynedd, cysylltwch â trefitaclus@gwynedd.gov.uk neu ffoniwch 01766 771000.