Mae arddangosfa newydd o waith un o ffotograffwyr cyfoes mwyaf blaenllaw'r Weriniaeth Tsiec i’w weld yng Nghanolfan Maenofferen, Blaenau Ffestiniog ar hyn o bryd.
Mae esiamplau o waith Pavel Hudec-Ahasver yn dod o dri chyfnod yn ei yrfa - canol y 1960au, y 1970au a’r 1980au a degawd cyntaf y ganrif hon. Mae rhai o’r delweddau diweddar yn cofnodi pobl a thirwedd ardal dyffryn Dyfi.
Dywedodd Delyth Gordon, Swyddog Celf Weledol Cyngor Gwynedd:
“Bydd detholiad gwych o ffotograffau yn cael eu harddangos, o bortreadau a thirweddau i fywyd llonydd. Mae’r gweithiau yn werth eu gweld ac felly dewch draw i arddangosfa gynta’r ganolfan yn 2011.”
Bydd yr arddangosfa ymlaen o 15 Ionawr i 12 Chwefror 2011 yng Nghanolfan Maenofferen, Blaenau Ffestiniog. Mae’n agored Llun i Mercher a Gwener i Sadwrn. Am fwy o fanylion ac oriau agor, ffoniwch 01766 830415.