Mae llywodraethwr yn:
- weithiwr gwirfoddol sydd â diddordeb mewn addysgu neu ddysgu. Mae'n cynrychioli aelodau yn y gymuned a staff yr ysgol.
- rhan o dîm sy'n derbyn cyfrifoldeb am bopeth mae ysgol yn ei gyflawni.
- darparu cefnogaeth i'r ysgol, ond mae hefyd yn rhoi barn feirniadol ar safonau a materion rheoli.
Mae saith math o lywodraethwyr yn ysgolion Gwynedd:
Rhiant-lywodraethwr - yn cael ei benodi trwy enwebiad ffurfiol sy'n cael ei gynnig i holl rieni'r ysgol pan fo lle gwag yn codi.
Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol - yn cael ei benodi gan y Cyfarwyddwr Addysg
Llywodraethwyr Cymunedol - yn cael ei enwebu gan y Corff Llywodraethol
Llywodraethwyr Cymunedol ychwanegol - yn cael ei enwebu gan y Cyngor Cymuned/Tref
Llywodraethwyr Sylfaenol - yn cael ei benodi gan awdurdod heblaw'r Awdurdod Addysg Lleol, ee, Ysgolion Eglwys
Athro-lywodraethwr - yn cael ei benodi trwy drafodaeth ac etholiad. Mae'n cael ei gynnig i holl athrawon yr ysgol.
Staff-lywodraethwr - yn cael ei benodi trwy drafodaeth ac etholiad. Mae'n cael ei gynnig i holl staff ategol yr ysgol.
Hyfforddi Llywodraethwyr Newydd
Mae rhaglen Anwytho Llywodraethwyr Newydd yn bodoli yng Ngwynedd. Mae'n cynnwys cyrsiau hyfforddi megis:
- rôl a chyfrifoldebau cyffredinol llywodraethwyr
- cyfarfodydd llywodraethu
- rheoli cyllid
- materion staffio
- y cwricwlwm
- ymweliad ysgol
- cynhaliaeth Gwynedd i lywodraethwyr
Dylai llywodraethwyr newydd gael eu hannog i fynychu un neu ragor o'r cyrsiau hyfforddi.
Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i ddod yn llywodraethwr cysylltwch â'r Uned Cefnogi Llywodraethwyr:
Cyfeiriad: Uned Gefnogi Llywodraethwyr, Swyddfa Addysg, Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
E-bost: llywodraethwyr@gwynedd.gov.uk neu melerimairhumphreys@gwynedd.gov.uk
Ffôn: (01286) 679 303