Gyda thymor y Nadolig bellach wedi ein cyrraedd, mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd am atgoffa trigolion lleol o’r camau i’w cymryd er mwyn sicrhau eich bod yn cael amser diogel a'ch bod yn mwynhau eich hun.
Dywedodd y Cynghorydd John Wyn Williams, sy’n arwain ar faterion diogelwch cymunedol ar Gyngor Gwynedd:
“Mae’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn amser o ddathlu a mwynhau. Ond mae’n bwysig fod pobl yn cofio ambell i gyngor er mwyn cadw’n ddiogel dros yr ŵyl.
“Cofiwch, os ydych yn mynd allan i yfed, gwnewch yn siŵr eich bod yn aros gyda’ch ffrindiau a threfnwch dacsi adref. Peidiwch ag yfed a gyrru – nid yw’n werth gwneud hynny.”
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd hefyd yn eich atgoffa chi i gadw eich hun a’ch eiddo yn ddiogel rhag troseddwyr drwy gydol cyfnod y Nadolig drwy ddilyn y cyngor atal trosedd isod:
Diogelwch yn y cartref:
- Cadwch ddrysau a ffenestri ar gau bob amser.
- Gall gadael anrhegion o dan y goeden ddenu sylw lladron os gellir eu gweld o’r tu allan - cadwch nhw o'r golwg tan ddiwrnod Nadolig.
- Os ydych yn storio eitemau mawr fel beiciau yn y sied yn yr ardd, gwnewch yn siŵr bod y drws wedi'i gloi.
- Gwnewch nodyn o rif ffrâm unrhyw feiciau newydd a rhifau cyfresol offer trydanol newydd ar gyfer y dyfodol. Hefyd, rhowch enw eich tŷ a'ch côd post ar eich eiddo gwerthfawr.
- Gadewch olau ar amserydd os ydych yn mynd i ffwrdd dros y Nadolig neu os ydych allan gyda’r nos.
- Cofiwch – mae gadael bocsys gwag tu allan i’r tŷ yn dweud wrth bobl fod gennych bethau newydd tu mewn i'r tŷ - dinistriwch y bocsys yn ofalus.
Allan yn siopa:
- Peidiwch â gadael bagiau ar drolïau neu bramiau ar eu pen eu hunain.
- Gwisgwch strapiau bag ar draws eich corff a gwnewch yn siŵr fod y sip wedi cau.
- Cadwch eich pwrs/waled yn agos i’ch corff a pheidiwch â chario gormod o arian parod.
- Byddwch yn wyliadwrus o bwy sydd o gwmpas pan fyddwch yn codi arian o’r twll yn y wal.
- Cadwch eich llyfrau siec a’ch cardiau ar wahân.
Amddiffynnwch eich cerbyd:
- Peidiwch byth â gadael pethau yn eich cerbyd lle fydd pobl yn gallu eu gweld.
- Sicrhewch fod pob drws a ffenestr ar glo.
- Defnyddiwch ddulliau diogelwch ychwanegol e.e. cloeon llyw neu olwyn a/neu larwm.
- Parciwch mewn garej os oes gennych chi un.
- Parciwch mewn lle golau, agored pan fyddwch oddi cartref.
Byddwch yn ddiogel
- Byddwch yn ymwybodol o faint yr ydych yn ei yfed – gall alcohol amharu ar eich barn a lleihau eich diogelwch.
- Cymerwch ofal o’ch eiddo fel eich bod yn osgoi sefyllfaoedd anodd a dyrys.
- Ewch gyda’ch greddf. Os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus mewn sefyllfa, gadewch.
- Ceisiwch osgoi bod mewn sefyllfa lle’r ydych yn ddibynnol ar eraill; efallai na fyddent yno pan fyddwch eu hangen.
- Ar noson allan, cadwch lygad ar eich diod a pheidiwch â derbyn diod gan rywun dieithr.
- Meddyliwch cyn gwahodd rhywun i’ch cartref neu cyn mynd i gartref rhywun arall.
- Sicrhewch fod eich ffrindiau yn gwybod lle’r ydych chi ac i le’r ydych yn mynd.
- Sicrhewch eich bod yn cynllunio eich taith adref o flaen llaw. Y cynllun delfrydol fyddai archebu tacsi o flaen llaw, neu, os oes gennych rif cwmni tacsi trwyddedig, ffoniwch nhw o’r parti cyn gadael.
- Bydd cynllun Cab Diogel Gwynedd a Môn yn darparu mynediad cyflym a hawdd i gwmnïau tacsi trwyddedig lleol i’r sawl sydd eisiau. Gall unrhyw un sy’n chwilio am ffordd i fynd adref yn ddiogel, anfon neges testun gyda’r gair “CAB” i 83222 a dylent gael neges testun yn ôl gyda rhif ffôn y tri chwmni tacsi trwyddedig agosaf.
- Ceisiwch rannu tacsi bob amser gyda ffrind.
- Os ydych yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, byddwch â’ch tocyn, trwydded neu arian mân yn barod yn eich llaw fel nad ydi’ch waled mewn golwg.
- Sicrhewch eich bod yn disgwyl am fws neu drên bob amser mewn lle sydd â digon o olau, yn agos at bobl eraill os yn bosibl a cheisiwch gael rhywun i’ch cyfarfod yn y safle bws neu orsaf.
- Os yw bws yn wag neu os yw hi’n dywyll, arhoswch ar lawr gwaelod y bws ac mor agos ag sy’n bosibl at y gyrrwr.
- Pan yn bosib, cerddwch â ffrind neu arhoswch yn agos i grŵp o bobl.
- Sicrhewch eich bod yn cadw at y llwybr mwyaf cyfarwydd i chi ac arhoswch ar strydoedd prysur gyda digon o olau.
- Peidiwch byth â chymryd lifft gyda rhywun dieithr neu gyda rhywun nad ydych yn ei adnabod yn dda hyd yn oed os ydych yn wlyb, blinedig neu yn hwyr iawn.
- Sicrhewch eich bod yn osgoi mannau peryglus fel llwybrau distaw tywyll neu feysydd parcio distaw.
- Peidiwch ag anghofio mynd â’ch ffôn symudol gyda chi. Sicrhewch fod y ffôn wedi’i wefru a gyda digon o gredid.
- Os yn bosib, cariwch larwm personol a byddwch yn ymwybodol sut i’w ddefnyddio er mwyn dychryn a chael gwared ag ymosodwr er mwyn i chi allu ffoi.
Ffoniwch yr Heddlu ar 101
Ni fu cysylltu â’r Heddlu erioed yn haws. Ffoniwch 101 ar gyfer pob galwad difrys. 101 yw’r llinell ddifrys a lansiwyd ar gyfer Cymru gyfan yn ôl yn Ebrill 2009. Dylid defnyddio’r llinell hon i gysylltu â’r Heddlu os oes gennych ymholiad cyffredinol neu er mwyn adrodd am drosedd nad yw'n argyfwng, er enghraifft ymddygiad gwrth-gymdeithasol, aflonyddu neu fygwth, ymddygiad meddw neu stwrllyd neu yrru peryglus er enghraifft.
Dylid parhau i ddefnyddio 999 os yw’r trosedd yn y broses o gael ei weithredu, os oes trais yn cael ei ddefnyddio neu’n cael ei fygwth, os oes troseddwr wedi cael ei aflonyddu ac wedi rhedeg i ffwrdd neu os oes damwain wedi bod ar y ffordd lle mae pobl wedi eu hanafu neu os oes cerbydau’n cau’r ffordd.
Rydym yn agosáu at gyfnod prysuraf y flwyddyn felly os nad yw eich galwad yn un brys ffoniwch 101, a gadewch y llinell 999 yn rhydd ar gyfer rhywun sydd mewn argyfwng.
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd yn bartneriaeth statudol, aml-asiantaethol sydd yn dod a nifer o asiantaethau at ei gilydd yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru (Rhanbarth Gorllewinol), Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Prawf Cymru, Awdurdod yr Heddlu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a nifer o asiantaethau gwirfoddol ac eraill gyda’r nod o wneud Gwynedd yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld.