Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2010 > Rhagfyr
 

Cymuned leol yn cymryd yr awenau

Mae’r bennod olaf yn y broses o drosglwyddo Pwll Nofio Harlech o berchnogaeth Cyngor Gwynedd wedi ei chwblhau.

Derbyniodd ymddiriedolaeth gymunedol leol yr allweddau i’r adeilad ar 1 Rhagfyr - dyma ddechrau pennod newydd yn hanes yr adnodd poblogaidd.

Mae hyn yn dilyn misoedd o waith caled gan y grŵp lleol a chefnogaeth frwd gan Gyngor Gwynedd. Sicrhawyd miloedd o bunnau ar gyfer y fenter fydd yn caniatáu i’r pwll aros yn agored, gan gynnwys £300,000 o Raglen Adnoddau a Gweithgareddau Cymunedol Llywodraeth y Cynulliad a £800,000 o arian Loteri.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards:

“Rydw i’n falch ofnadwy fod goriadau pwll nofio Harlech wedi eu trosglwyddo i’r mudiad lleol o’r diwedd. Mae pobl Harlech wedi dweud wrthym eu bod eisiau gweld y pwll yn aros ar agor ac rydw i’n bles fod y gwaith diwyd wedi talu ar ei ganfed.

“Mae llwyddiant y cynllun yn dangos beth allwn ei gyflawni wrth i bobl leol, Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Gwynedd gydweithio i ddod o hyd i atebion pan rydym yn wynebu sefyllfaoedd anodd.

“Mae’r Cyngor wedi gallu cefnogi’r ymddiriedolaeth leol i weithio ar y cynllun busnes a sicrhau'r arian angenrheidiol. Rydym hefyd wedi gallu cadw’r pwll ar agor yn y cyfamser.”



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 02/12/2010
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2014
Sgipio i [ brig y dudalen ]