Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2010 > Tachwedd
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Tachwedd |
 

Gwahodd perchnogion anifeiliaid i Fangor

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal diwrnod agored ar gyfer perchnogion anifeiliaid anwes er mwyn hybu perchnogaeth gyfrifol.

Cynhelir y diwrnod yn Swyddfa Matra, 24 Llys Dylan, Maesgeirchen, Bangor ddydd Gwener, 19 Tachwedd, 10am-3pm. Bydd y diwrnod yn cynnwys:

Meicrosglodi rhad ac am ddim ar gyfer cŵn, cathod a chwningod
Cyngor rhad ac am ddim ar sut i edrych ar ôl anifeiliaid anwes

Mae’n hynod bwysig fod pobl yn meicrosglodi eu hanifail anwes ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn gwisgo tagiau enw. Petai’r ci, cath neu gwningen yn crwydro gall helpu i’w cael yn ôl adref yn ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd John R Jones, Uwch Arweinydd Portffolio Adnoddau Cyngor Gwynedd: “Mae colli anifail anwes yn brofiad cas. Drwy osod microsglodyn ar yr anifail gall gyflymu’r broses o’i dychwelyd adref.

“Byddwn yn annog perchnogion anifeiliaid anwes i alw heibio’r diwrnod agored a chymryd mantais o’r cynnig rhad ac am ddim yma, ac i siarad gyda’r swyddogion a derbyn arweiniad am sut i edrych ar ôl anifeiliaid.”

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddog Lles Anifeiliaid Cyngor Gwynedd ar 01766 771000.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 02/11/2010
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2014
Sgipio i [ brig y dudalen ]