Cludiant cynradd
Mae cludiant am ddim ar gael i rai plant i fynd i ysgolion cynradd. I weld os yw eich plentyn chi yn gymwys ewch i’r dudalen Cludiant ysgolion cynradd.
Cludiant uwchradd
Mae cludiant am ddim ar gael i rai plant i fynd i ysgolion uwchradd. I weld os yw eich plentyn chi yn gymwys ewch i’r dudalen Cludiant ysgolion uwchradd.
Tocyn Teithio 16+
Mae cynllun newydd ar gyfer disgyblion 16+ fydd yn mynychu ysgol / coleg yn cael ei gyflwyno ym Medi 2011. Am fwy o wybodaeth ewch i'r tudalennau gwybodaeth Tocyn Teithio 16+.
Cynllun seddi gweigion
Mae disgyblion ysgolion cynradd sydd yn byw llai na 2 filltir o'r ysgol, neu ddisgyblion ysgolion uwchradd sy’n byw llai na 3 milltir o’r ysgol, ac sydd heb hawl i gludiant am ddim yn gallu manteisio ar seddau gweigion sydd ar gael ar drafnidiaeth i ysgolion sy'n cael ei a ddarparu gan Gyngor Gwynedd.
Mae manteisio ar y cynllun yn amodol ar:
- bod seddau gweigion ar gael
- nid oes angen i’r cerbyd wyro oddi wrth ei daith arferol
- nid oes costau ychwanegol i’r Cyngor
- talu’r ffi seddau gweigion cyfredol
Er mwyn gwneud cais am sedd wag i'ch plentyn:
Ymddygiad ar fws ysgol
Mae disgwyl i blant a phobl ifanc ymddwyn yn briodol wrth ddefnyddio cludiant i'r ysgol. Am ragor o wybodaeth edrychwch ar y Cod ymddygiad wrth deithio ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Llwybrau cerdded
Mae disgyblion ysgol gynradd sy’n byw llai na 2 filltir o'r ysgol, a disgyblion ysgol uwchradd sy’n byw llai na 3 milltir o’r ysgol, ond sydd yn teithio i’r ysgol ar hyd ffyrdd sy'n cael eu hystyried yn arbennig o beryglus gan y Cyngor yn gallu derbyn cludiant am ddim.
Y diffiniad o ffordd beryglus yw lle mae natur y ffordd (sy’n cynnwys llwybrau cyhoeddus) yn golygu nad yw’n rhesymol disgwyl i ddisgyblion gerdded yn gymharol ddiogel. Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal ar adegau o’r dydd a diwrnodau’r wythnos pan fyddai disgwyl i'r disgybl ei ddefnyddio
I drefnu asesiad, mae angen ysgrifennu llythyr yn nodi'r rhesymau pam eich bod yn credu bod y ffordd yn beryglus at:
Adain Cludiant, Adran Addysg, Cyngor Gwynedd, Caernarfon Gwynedd, LL54 1SH
Gwybodaeth ychwanegol
Am unrhyw wybodaeth ychwanegol ynglŷn a teithio i'r ysgol, ewch i'r