Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2010 > Hydref
 

Cyngor Gwynedd yn cefnogi busnesau lleol

Mae cynllun arloesol gan Gyngor Gwynedd yn cynorthwyo busnesau’r sir i gyflawni safonau uwch a’r gallu i gystadlu yn ystod yr amseroedd economaidd anodd sydd ohoni.

Fel rhan o Gynllun Gweithredu Ymateb i’r Dirwasgiad y Cyngor, a lansiwyd 18 mis yn ôl, mae Adran Economi a Chymuned y Cyngor yn cynnig cefnogaeth i fusnesau o faint bach a chanolig er mwyn eu rhoi mewn safle cryf a chystadleuol.

Gall y Cyngor gyfrannu tuag at y gost wrth i fusnesau gyflawni achrediadau a chymwysterau masnach, gan eu galluogi i wneud cais am fwy o gytundebau a chynyddu eu cyfran o’u marchnad.

Un busnes lleol sydd yn barod wedi cymryd mantais o’r cynllun yw Rock Engineering, cwmni geotechnoleg a pheirianneg sifil sydd wedi ei leoli ym Mhorthmadog. Gyda chymorth Cyngor Gwynedd, mae’r cwmni wedi cyflawni ardystiad systemau rheolaeth o ansawdd, a fydd yn eu rhoi mewn lle cryfach gobeithio i ennill cyfleoedd tendro ar raddfa fawr yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Lewis, Uwch Arweinydd Portffolio ar yr Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Mae sicrhau fod busnesau Gwynedd yn effeithlon, cystadleuol ac o safon uchel yn hanfodol i sicrhau economi cryf a bywiog. Dyna pam fod Adran Economi a Chymuned y Cyngor yn sicrhau bod y gefnogaeth gorau posibl ar gael.

“Rydym yn ffyddiog y bydd gan fusnesau lleol fantais angenrheidiol i ennill cytundebau mawr yn y dyfodol drwy’r gefnogaeth y gallwn ei ddarparu er mwyn eu cynorthwyo i ennill achrediadau addas.”

Ychwanegodd David Jones, Cyfarwyddwr Rheoli Rock Engineering Ltd:

“Fel cwmni, rydym yn ofnadwy o hapus ein bod wedi llwyddo i gyflawni’r ardystiad a fydd yn hwb mawr inni ac rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a gafwyd gan Gyngor Gwynedd er mwyn ein galluogi i gyflawni hyn.

“Byddwn yn argymell i unrhyw fusnes a fyddai’n hoff o ddatblygu a gwella ei hun, i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd yn cael eu cynnig gan y Cyngor.”

Dylai unrhyw fusnes o Wynedd sydd eisiau mwy o wybodaeth ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael gysylltu ag Uned Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd ar 01286 679677.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 28/10/2010
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]