Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2010 > Hydref
 

Cyfleon beicio a cherdded yn cynyddu

Bydd Cyngor Gwynedd yn cynnal gwaith uwchraddio sylweddol ar lwybrau yn ardal y Felinheli rhwng Tachwedd a Ionawr. Mae’r gwaith wedi ei ariannu gyda chefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad.

Mae’r gwaith yn cynnwys gwella rhannau sylweddol o lwybr adnabyddus Lôn Las Menai yn y Felinheli yn o gystal â chynnal gwelliannau er mwyn hwyluso mynediad i drigolion lleol gyrraedd y llwybr poblogaidd yma.

Mae rhwydwaith o fwy na 50 cilomedr (32 milltir) o lwybrau pwrpasol ar gyfer cerdded a beicio drwy Wynedd, yn agored i’r cyhoedd drwy’r flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Mae pobl Gwynedd yn dweud wrthym dro ar ôl tro fod sicrhau amgylchedd braf a chyfle i fwynhau’r awyr agored yn bwysig iawn iddyn nhw. Braf felly yw gweld gwaith yn cychwyn ar uwchraddio’r rhan yma o Lôn Las Menai sy’n rhan bwysig iawn o rwydwaith llwybrau cerdded a beicio yma yng Ngwynedd.”

Ychwanegodd Uwch Warden Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd, Mark Balaam:

“Dyma gychwyn ar gyfres o brosiectau cyffrous yn ardal y Felinheli. Mae rhannau o’r Lôn Las bellach wedi gweld dyddiau gwell a gyda chynnydd sylweddol a’r galw y dyddiau hyn am lwybrau diogel i deithio i’r gwaith, ysgol neu ar gyfer hamdden, bydd y gwaith yma yn gam sylweddol tuag at gwblhau’r gwelliannau i’r rhwydwaith.

“Bydd gweithredu’r prosiectau yma hefyd yn gam sylweddol tuag at gwblhau’r cysylltiad rhwng Chaernarfon a Bangor.”

Mae’r gwaith yn cael ei gynnal gan Wasanaeth Amgylcheddol Cyngor Gwynedd drwy gefnogaeth cynllun grant Môn Menai Llywodraeth y Cynulliad.

Am ragor o fanylion am Lôn Las Menai, a llwybrau cymunedol eraill yng Ngwynedd, ewch i: www.gwynedd.gov.uk a dewiswch Cynllunio ac Amgylchedd ar ochr chwith y sgrin.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 26/10/2010
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]