Mae Gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Gofal Cwsmer Cyngor Gwynedd wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol am ei lwyddiant mewn hyrwyddo’r ardal fel prif gyrchfan wyliau.
Mae Cyngor Gwynedd yn un o 53 mudiad i gyrraedd y rownd derfynol o’r Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2010, allan o 400 cwmni a gwasanaeth ag enwebwyd.
Bydd y Cyngor yn cael gwybod os bydd wedi cyrraedd brig dosbarth Marchnata Digidol y gystadleuaeth am ei brand marchnata Eryri Mynyddoedd a Môr yn ystod seremoni fawreddog yng ngwesty’r Vale ger Caerdydd ddydd Iau, 21 Hydref.
Trefnir y gystadleuaeth gan Croeso Cymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru a’i fwriad yw rhoi llwyfan i’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig i ymwelwyr drwy adnabod gwasanaeth o safon, croeso cynnes ac agwedd broffesiynol i edrych ar ôl twristiaid.
Enwebwyd Cyngor Gwynedd oherwydd ei defnydd effeithiol o farchnata digidol a sut mae wedi targedu ymwelwyr a’u hannog i ymweld â’r wefan www.ymweldageryri.info .
Datblygwyd y safle gan y cwmni o Fangor WiSS Cyf a drwy weithio gyda’r cwmni o Gaernarfon, Marchnata Aqua, mae’r wefan wedi gweld mwy na 260,000 o ymwelwyr ac 1.7 miliwn o dudalennau wedi eu darllen.
Un o’r ymgyrchoedd digidol mwyaf llwyddiannus oedd defnydd y Cyngor o’r cyfryngau newydd i hyrwyddo’r ardal yn ystod y cyfnod cyn Penwythnos Mawr BBC Radio 1, a gynhaliwyd yn y Faenol ger Bangor yn ystod Mai 2010. Bu i’r gwasanaeth gymryd mantais lawn o’r digwyddiad anferth pan gynhaliwyd gŵyl gerddoriaeth rad ac am ddim fwyaf yn Ewrop o flaen cynulleidfa o 40,000 drwy greu rhan arbennig i’r wefan oedd yn cynnwys gwybodaeth am atyniadau yn yr ardal, trefniadau teithio a gwybodaeth am lety.
Fel arfer mae’r wefan Ymweld ag Eryri yn derbyn 1,000 o ymwelwyr a 46,000 o hits bob diwrnod ond ar y diwrnod y cyhoeddwyd pa artistiaid fyddai’n canu yn yr ŵyl gan Radio 1 gwelwyd cynnydd sylweddol i 56,000 o ymwelwyr a 686,000 o hits.
Mae Gwasanaeth Twristiaeth a Marchnata’r Cyngor hefyd yn gwneud defnydd arloesol o’r we ar gyfer ymgyrchoedd marchnata, er enghraifft defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol megis Facebook, Twitter a YouTube; defnyddio’r rhyngrwyd i adael i gwsmeriaid wybod am gynigion arbennig; a gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithlon o beiriannau chwilio’r we. Mae’r ymgyrch ar-lein yn gweithio law yn llaw ag ymgyrchoedd traddodiadol sef defnyddio taflenni a llyfrynnau.
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Lewis, arweinydd portffolio Datblygu Cyngor Gwynedd: “Rydym wrth ein bodd o glywed fod Gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Gofal Cwsmer y Cyngor wedi eu henwebu ar gyfer y wobr, sef Oscars y diwydiant. Rydym i gyd yn gobeithio’r gorau ar gyfer dydd Iau.
“Mae defnyddio’r we i hyrwyddo ein hatyniadau a gwasanaethau yn greiddiol i’n gwaith. Mae pobl heddiw llawer mwy tebygol o bori’r we am ffyrdd i dreulio’u hamser hamdden ac mae’n bwysig ofnadwy fod ein gwasanaethau yn adlewyrchu’r hyn mae ein cwsmeriaid eisiau fel ein bod yn effeithiol ac effeithlon.
“Rydw i hefyd yn falch iawn fod nifer o fusnesau lleol hefyd wedi eu henwebu mewn categorïau eraill, sy’n dangos fod gan Wynedd ddiwydiant gwyliau a hamdden lewyrchus, all gystadlu efo goreuon Cymru.”
Ewch i wefan Eryri Mynyddoedd a Môr ar www.ymweldageryri.info