Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2010 > Hydref
 

Wythnos Ni – Dathlu Plant a Phobl Ifanc Gwynedd

Mae wythnos o ddigwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal ar hyd a lled Gwynedd unwaith eto eleni er mwyn dathlu cyfraniad arbennig plant a phobl ifanc i gymunedau’r sir.

Bydd Wythnos Plant a Phobl Ifanc Gwynedd – Wythnos Ni – sy’n cael ei chynnal am yr eilwaith yn olynol, ymlaen rhwng 8 a 14 Tachwedd a bydd yn cael ei dathlu gyda gweithgareddau ar draws y sir.  Mae’r wythnos wedi ei threfnu gan Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd, ac fe’i lansiwyd yn swyddogol ar ddydd Gwener, 8 Hydref gyda’r prif neges fod Gwynedd yn lle da i blant a phobl ifanc ddathlu, llwyddo a mwynhau.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd: “Roedd digwyddiad y llynedd yn llwyddiant ysgubol ac rydym yn hynod falch ein bod yn gallu darparu yr un llwyfan ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd eleni. Bydd Wythnos Ni yn gyfle i hyrwyddo’r gwaith arloesol sy’n cael ei gyflawni wrth ymateb i anghenion plant a phobl ifanc Gwynedd.

“Mae plant a phobl ifanc Gwynedd yn cyflawni cymaint yn ein cymunedau ac mae’n bwysig ein bod yn dathlu eu llwyddiant. Bydd yr wythnos hefyd yn gyfle gwych i ni glywed llais a barn pobl ifanc Gwynedd am y materion sy’n eu heffeithio nhw yn eu bywyd bob dydd.”

Ychwanegodd Nia Morris, Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd a Chadeirydd Bwrdd Llywio Wythnos Ni: “Bydd Wythnos Ni 2010 yn rhoi llwyfan i blant a phobl ifanc Gwynedd mewn cyfres o ddigwyddiadau ledled y sir. Bydd hefyd yn gyfle i amlygu gwaith sefydliadau plant a phobl ifanc yng Ngwynedd gyda’r neges hollol bwysig bod Gwynedd yn lle da i blant a phobl ifanc ddathlu, llwyddo a mwynhau.”

Mae thema penodol wedi cael eu dewis ar gyfer ar gyfer pob diwrnod yn ystod Wythnos Ni gydag amryw o ddigwyddiadau ar gael i blant a phobl ifanc fydd yn dathlu cyfraniad a photensial plant a phobl ifanc i’r ardal, ynghyd â chyfle i ddangos ac i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau a’r cyfleon sydd ar gael ar eu cyfer. Bydd yr wythnos hefyd yn cynnwys  cynhadledd gyda’r Dirprwy Weinidog Dros Blant Llywodraeth y Cynulliad, gyda’r wythnos yn cloi gyda noson o ddathlu llwyddiant pobl ifanc sydd wedi derbyn achrediadau yn Hafan y Môr, Pwllheli.

Yn ogystal â’r prif ddigwyddiadau, mae Cynllun Grantiau Bach ar gael i ysgolion, sefydliadau a grwpiau plant a phobl ifanc i drefnu gweithgareddau a digwyddiadau eu hunain yn lleol.

Mae’r wythnos o ddigwyddiadau yn cynnwys:
6 Tachwedd – Diwrnod Hwyl yng Nghaernarfon
8 Tachwedd – Cynhadledd Taclo Tlodi Plant yn Nhrawsfynydd
9 Tachwedd  - Cynhadledd Gyrfaoedd ym Mangor
10 Tachwedd – Gŵyl Hwyl ym Mhlas Glynllifon
12 Tachwedd – Noson Wobrwyo Llwyddiannau Pobl Ifanc ym Mhwllheli.

Am fwy o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos a manylion am y cynllun grantiau bach ewch i wefan Wythnos Ni: www.gwynedd-ni.org.uk/wythnos-ni  neu ffoniwch 01286 679796.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 12/10/2010
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]