Mae partneriaeth yn dathlu llwyddiant o ddenu miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i Wynedd dros y ddeng mlynedd ddiwethaf drwy fedru addasu i adlewyrchu'r hinsawdd economaidd a chymdeithasol.
Mae Partneriaeth Economaidd Gwynedd (PEG) yn cynrychioli busnesau preifat, cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector yng Ngwynedd. Cynhaliwyd ei gynhadledd flynyddol yn ddiweddar ac roedd yn gyfle i’r gymuned fusnes leol i edrych ar y materion fydd yn eu hwynebu yn y cyfnod anodd sydd ohoni.
Y prif siaradwyr yn y gynhadledd oedd Elin Jones AC, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth y Cynulliad; a Tracey Burke, Cyfarwyddwr Rhaglen Adnewyddu’r Economi, Llywodraeth y Cynulliad.
Yn ystod y gynhadledd roedd gan gynrychiolwyr gyfle i weld arddangosfa o’r gwahanol fusnesau yng Ngwynedd sydd wedi derbyn cymorth gan gynllun Llwyddo yng Ngwynedd. Dyma un o brif brosiectau PEG, caiff ei ariannu gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13 a’i fwriad yw helpu gwireddu syniadau busnes pobl leol drwy fuddsoddi mewn datblygiad syniadau, gwaith ymchwil, sefydlu ac ehangu mentrau cymunedol a masnachol.
Dywedodd Cadeirydd y Bartneriaeth, Dafydd Iwan:
“Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn hynod heriol i fentrau o bob maint ac o bob oed yma yng Ngwynedd.
“Ond rydw i’n hyderus y gallwn dynnu at ein gilydd, rhannu syniadau a chreu cysylltiadau lleol i ddod drwy’r storm. Roedd yn galonogol iawn i weld gymaint o bobl yn mynychu’r gynhadledd a gwelsom fod y gymuned fusnes yn awyddus i gyfarfod a chreu rhwydwaith gref.
“Mae’r bartneriaeth yn awyddus i glywed barn pobl a dysgu trwy eu profiadau, fel y gallwn sianelu ein cymorth tuag at wir anghenion yr economi leol. Cynhaliwyd gweithdy yn ystod y gynhadledd er mwyn casglu barn am effeithiau’r hinsawdd heddiw a sut gallwn wella’r sefyllfa.”
Mae papurau’r gynhadledd a chopi o gyflwyniadau’r prif siaradwyr ar gael ar wefan PEG, ewch i www.EconomiGwynedd.info