Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2010 > Awst
 

Taclo problemau baw ci ym Mhwllheli ac Abersoch

Cynhelir diwrnod codi ymwybyddiaeth baw ci ym Mhwllheli ac Abersoch ddydd Mercher, 1 Medi gan Gyngor Gwynedd a’i bartneriaid.

Bydd yr ymgyrch yn gweld staff y Cyngor yn gweithio gyda swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r ymgyrch yn dilyn digwyddiadau tebyg fu’n llwyddiant yn Abermaw, Caernarfon a Thywyn.

Bwriad y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth am sut gall baw ci fod yn niweidiol i’r iechyd, a’i effaith ar gymdeithas. Bydd perchnogion cŵn yn cael eu hannog i fod yn gyfrifol a chlirio’r baw ar ôl eu hanifeiliaid wrth fynd am dro.

Bydd cyfle i’r cyhoedd dderbyn pecynnau rhad ac am ddim fydd yn eu helpu i lanhau ar ôl eu cŵn a bydd swyddogion ar gael i gynnig cyngor. Bydd arwyddion rhybudd newydd yn cael eu gosod hefyd ar y diwrnod.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 19/08/2010
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]