Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2010 > Gorffennaf
 

Partneriaeth A55 yn Arwain y Ffordd

Cytundeb unigryw i gynnal a gweithredu'r A55 rhwng Caergybi a Llandygai
Cytundeb unigryw i gynnal a gweithredu'r A55 rhwng Caergybi a Llandygai

Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cytundeb hirdymor unigryw gyda’r consortiwm preifat UK Highways, i gynnal a gweithredu’r draffordd yr A55 rhwng porthladd Caergybi a Llandygai, ger Bangor.

Dechreuodd UK Highways, y cwmni dylunio, adeiladau, cynnal a chyllido, sydd â chonsesiwn 30 mlynedd gyda Llywodraeth y Cynulliad, gytundeb gyda Chyngor Gwynedd i gynnal a gweithredu'r adran yma o’r A55 yn ôl yn 2001. Yn ddiweddar, mae’r ddau gorff wedi cytuno i ymestyn y cytundeb am 18 mlynedd ychwanegol o Fawrth 2011 nes bydd consesiwn UK Highways yn dod i ben yn 2029.

“Mae hwn yn gytundeb hollol unigryw, lle mae gweithlu o’r sector gyhoeddus yn cyflawni gwaith cynnal a gweithredu i gwmni o’r sector breifat,” meddai Gwyn Morris Jones, Pennaeth Priffyrdd Cyngor Gwynedd. “Mae hefyd yn anarferol i gael cytundeb mor hir dymor a 18 mlynedd yn y maes peirianneg sifil.”

“Mae ysbryd o bartneriaeth wedi datblygu rhwng y ddau gorff. Prin iawn yw’r achosion lle mae angen cyfeirio at y cytundeb er mwyn datrys anghydfod. Mae llwyddiant y bartneriaeth yn tanlinellu fod y gweithlu yn darparu gwasanaeth o safon uchel am brif cystadleuol.

“Mae’r profiad o weithredu safonau uchel o dan y cytundeb A55, sydd i ofynion sicrwydd ansawdd, wedi dylanwadu ar weithgareddau eraill Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol y Cyngor fel ein hachrediad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (18001).

“Mae’r ffaith fod y Cyngor a UK Highways wedi cefnogi’r cytundeb mor frwdfrydig yn adlewyrchiad o’r safon uchel y mae gweithlu’r Cyngor wedi ei ddarparu dros y ddegawd ddiwethaf ynghyd a’r gweithio agos a’r berthynas effeithiol sy’n bodoli rhwng y ddau gorff. Rydym bellach yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant yma gyda UK Highways.”

Ychwanegodd John Gardner, Rheolwr Cyffredinol UK Highways: “Rydym yn hynod falch o fod wedi cytuno’r cytundeb gyda Gwynedd hyd ddiwedd y consesiwn gan fod hyn yn cydnabod y gwaith caled sydd wedi ei gyflawni ac rydym yn edrych ymlaen at barhad y llwyddiant yn y dyfodol. Rydym yn ddiolchgar i Gwyn a’i dîm am eu hymdrechion wrth sicrhau’r cytundeb arbennig yma ac mae’n arddangos ein hymrwymiad parhaus i fuddsoddi mewn adnoddau lleol.”



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 03/08/2010
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]