Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2010 > Gorffennaf
 

Ad-drefnu ysgolion cynradd Gwynedd - dalgylch y Berwyn

Mae Cynghorwyr Gwynedd wedi cefnogi cynigion amlinellol ar gyfer ad-drefnu ysgolion cynradd yn ardal y Berwyn.

Yn ystod 2009, fe wnaeth y Cyngor fabwysiadu strategaeth newydd ar gyfer adolygu addysg gynradd ar draws y sir er mwyn darparu addysg o'r safon orau bosib i holl blant Gwynedd.

Fel rhan o'r broses hon, cwblhawyd adolygiad o ardal y Berwyn yn ddiweddar. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd a gwnaed gwaith ymchwil trylwyr ar effaith y gwahanol opsiynau ar yr iaith Gymraeg a chymunedau'r ardal.

Yn dilyn y gwaith hwn, cyflwynodd y Cynghorydd Liz Saville Roberts, Arweinydd Portffolio Addysg y Cyngor, argymhellion ar gyfer yr ardal - yn gyntaf i'r Panel Adolygu Ardal lleol, yna i Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cyngor ac i Fwrdd y Cyngor.

Yn dilyn hyn, yng nghyfarfod y Cyngor llawn (15 Gorffennaf 2010), fe wnaeth Cynghorwyr gefnogi'r argymhellion i fynd ymlaen i gynnal ymgynghoriad statudol yn yr hydref ar y canlynol:

  • I ymgymeryd â phroses ymgynghori statudol yn unol â gofynion Deddf Safonau Fframwaith Ysgolion 1998 ar y bwriad i gau ysgolion Beuno Sant, Bro Tegid, ac Ysgol Uwchradd Y Berwyn fel bod modd sefydlu Ysgol Gymuned Gydol Oes newydd yn nhref Y Bala i agor yn ystod blwyddyn academaidd 2014-15.
  • I ymgymeryd â phroses ymgynghori statudol yn unol â gofynion Deddf Safonau Fframwaith Ysgolion 1998 yn ystod Hydref 2010 ar y bwriad i gau Ysgol y Parc erbyn Medi 2012 gan gynnig lle i blant y dalgylch yn Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn. Bydd y Cyngor yn gweithio gydag Arweinwyr Cymunedol a Swyddogion Adfywio Bro i ddiogelu defnydd cymunedol adeilad Ysgol Y Parc.
  • I hybu cydweithio rhwng Ysgolion O M Edwards, Ffridd y Llyn a Bro Tryweryn ac i ddatblygu ffyrdd o ganiatau i'r ysgolion fanteisio ar gyfleusterau ac arbenigedd y campws gydol oes. Nid oes i'r cynnig hwn oblygiadau statudol.


Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 15/07/2010
 

Gweler Hefyd

Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]