Mae’n bur debyg y bydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei galw yn yr wythnosau nesaf ac mae galw ar bobl Gwynedd i gofrestru i bleidleisio cyn gynted â phosib.
Am ragor o wybodaeth am gofrestru i bleidleisio neu er mwyn llawrlwytho ffurflen gofrestru, ewch i'r adran etholiadau ar y wefan hon.
Gallwch hefyd ffonio'r rhifau ffôn isod er mwyn gwneud yn siŵr eich bod ar y gofrestr etholiadol, neu i wneud cais am ffurflen gofrestru:
- (01286) 679058 os ydych yn byw yn Arfon neu Dwyfor,
- (01341) 424311 os ydych yn byw ym Meirionnydd
Mae beth sy’n digwydd yn Senedd San Steffan yn effeithio pob agwedd o’n bywydau yma yng ngogledd Cymru – mae’r Senedd yn edrych beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud, yn pasio cyfreithiau, yn gosod trethi ac yn trafod materion y dydd.
Cofrestru a phleidleisio mewn etholiad yw’r unig ffordd y gallwn ddewis Aelod Seneddol fydd yn cynrychioli ein buddiannau yn Nhŷ’r Cyffredin. Gwaith Aelodau Seneddol yw cysidro a chynnig cyfreithiau newydd, a defnyddio eu safle i ddwyn pwysa ar weinidogion y llywodraeth am bynciau cyfoes.
Dywedodd Dilys Phillips, Swyddog Etholiadol Gwynedd: “Rydym eisiau gwneud yn saff na fydd neb yn colli’r hawl i gymryd rhan yn yr etholiad am nad ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.
“Efallai bod rhai pobl yn meddwl fod hawl ganddynt bleidleisio am eu bod yn talu Treth Cyngor, ond mae’n rhaid cofrestru yn swyddogol.
“Mae pob pleidlais gan bob unigolyn yn holl bwysig mewn etholiad ac mae angen i bawb i bleidleisio a chymryd rhan i sicrhau ffyniant y broses ddemocrataidd.”
Cewch hefyd gofrestru am bleidlais drwy’r post os na fedrwch fynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod etholiad.
Os ydych wedi symud i fyw yn ddiweddar, gwnewch yn siŵr fod eich manylion ar y gofrestr etholiadol yn gywir drwy gysylltu â’r rhif uchod.