Mynychodd oddeutu hanner cant o ddisgyblion Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli ac Ysgol Tryfan ym Mangor Weithdy Cabinet yn Siambr Dafydd Orwig yng Nghaernarfon i ehangu eu gwybodaeth am waith y Cyngor.
Bu iddynt gyfarfod â llawer o swyddogion a chynghorwyr, a chawsant y cyfle i drin, trafod ac ystyried y gwahanol fathau o faterion ac achosion sydd raid i’r Cyngor ymdrin â phob diwrnod.
Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Cynghorydd Dyfed Edwards: “Mae llawer o agweddau yng ngwaith y Cyngor yn effeithio ar fywyd pob dydd pobl ifanc y sir, ac mi oedd y gweithdy hwn yn gyfle delfrydol i’r disgyblion gael profi a gweld â’u llygaid eu hunain sut a pham mae’r holl benderfyniadau yma am wasanaethau ac adnoddau o fewn y sir yn cael eu gwneud.
“Rydym o hyd yn dysgu o agweddau a barn pobl ifanc. Mae ganddynt i gyd safbwyntiau a phrofiadau newydd, gwreiddiol sy’n herio’n safbwyntiau traddodiadol ni fel cynghorwyr a swyddogion mewn ffordd gadarnhaol.
“Gobeithiaf yn gryf bod y profiad yma wedi bod yn werth chweil iddynt, ac wedi bod yn gyfle euraidd i ddysgu am bosibiliadau swyddi sydd allan yna ar eu cyfer ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd arweinydd portffolio plant a phobl ifanc Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Gwen Griffith: “Mae hyn wedi bod yn gyfle gwerthfawr ar gyfer y disgyblion i ddysgu am waith y Cyngor ac i fynegi eu barn am rai o’r materion allweddol.
“Edrychaf ymlaen at weld rhagor o bobl ifanc eu hoed hwy yn cael yr un cyfle yn y dyfodol gan ei fod yn bwysig iawn ein bod yn cael clywed eu llais, a’u bod yn dylanwadu ar y penderfyniadau fydd yn effeithio ar eu bywydau. Fel Cynghorwyr, rydym yn gallu dysgu cymaint oddi wrth ein poblogaeth ifanc.”
“Mae’n hynod bwysig bod pobl ifanc yn dysgu am waith cynghorwyr a swyddogion y cyngor, gan mai nhw fydd yn llenwi eu hesgidiau yn y dyfodol.”
Dywedodd Bethan Lloyd Owen, tiwtor o Goleg Meirion-Dwyfor: "Roedd cael mynychu Gweithdy Cabinet yng Nghaernarfon yn gyfle gwych i fyfyrwyr Bagloriaeth Cymru. Nod y Gweithdy Cabinet oedd galluogi’r disgyblion ddysgu mwy am waith Cyngor Gwynedd, drwy roi’r cyfle iddynt ystyried a thrafod y mathau o faterion heriol a phenderfyniadau anodd sydd yn cael eu gwneud gan Swyddogion ac Aelodau’r Cyngor yn ddyddiol. Roedd y disgyblion wedi mwynhau cael bod yn rhan o’r diwrnod, ac roeddynt oll wedi manteisio o’r profiad.”
Dywedodd Beca Thomas, myfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli: "Mi wnes i fwynhau'r profiad yn fawr iawn. Roedd cael gwybod mwy am waith y Cyngor o ddydd i ddydd yn ddiddorol, ac yn ddefnyddiol iawn i ni ar y cwrs.
“Roeddem yn cydweithio mewn grwpiau efo myfyrwyr o ysgol arall, ac yn trafod a holi'r swyddogion. Rwy'n teimlo mod i'n deall mwy am lywodraeth leol wedi bod yn y gweithdy yma."
Dywedodd Nesta Lloyd Jones, dirprwy bennaeth Ysgol Tryfan: “Roedd y disgyblion wedi mwynhau'r diwrnod yn fawr ac wedi gweld budd yn y cyfle, yn enwedig y rhai sy’n astudio’r Fagloriaeth Gymreig. Roedd yn gyfle iddynt ddysgu am yr ystod eang o gyfrifoldebau sydd gan y Cyngor.
“Roedd yn gyfle i’r bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau personol a gweithio gyda myfyrwyr o ysgolion eraill ac roedd pawb yn meddwl fod siarad yn gyhoeddus yn rhan heriol o’r diwrnod.”
Dywedodd Ffiona Williams, Uwch Reolwr Gyrfa Cymru: “Mae’r Gweithdy Cabinet yn gyfle gwych i bobl ifanc i ehangu gorwelion ac i gael blas o’r ystod o gyfleon gyrfaol sydd o fewn y Cyngor. Fel cwmni, ein byrdwn yw paratoi pobl ifanc ar gyfer byd gwaith a dyma un o’r sawl gweithgaredd rydym yn ei drefnu.”